Clwb Clebran Mis Hydref gyda Ken Owens
Bydd Ian Jones, Pennaeth Hamdden, yn cyfweld â Ken Owens, cyn-chwaraewr Cymru a'r Scarlets, yn y Clwb Clebran y mis hwn.
Ar ôl cael ei fagu yn Sir Gaerfyrddin a mynychu Ysgol Bro Myrddin, enillodd Ken ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Namibia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2011.
Bu Ken yn gapten ar y Scarlets rhwng 2014-19, a chafodd ei enwi hefyd yn Chwaraewr y Tymor 2018/19 wrth iddo chwarae 250 o gemau dros y rhanbarth.
Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Ken ei fod yn ymddeol o rygbi, yn dilyn gyrfa lle enillodd 91 o gapiau dros Gymru.
Dewch i glywed mwy ddydd Mercher, 23 Hydref ar Microsoft Teams rhwng 12.30-1.30pm.
Os oes gennych gwestiwn i Ken, defnyddiwch y swyddogaeth 'sgwrsio' yn ystod y sesiwn neu e-bostiwch iaithgymraeg@sirgar.gov.uk cyn y diwrnod.
Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.
- Pryd: 12.30
- Ble: Microsoft Teams