Mai
15
2024

Clwb Clebran Mis Mai yn croesawu David Thomas, cyn enillydd Dysgwr y Flwyddyn

Fel rhan o’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith, mae'r Clwb Clebran y mis hwn yn croesawu David Thomas, enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2021.

Sefydlodd David a'i bartner yr enwog Jin Talog.

Dewch draw i'r sesiwn ar-lein ddydd Mercher, 15 Mai rhwng 12pm a 12.45pm i gael gwybod mwy am sut a pham y dechreuodd David ar ei daith i ddysgu Cymraeg yn ogystal â chlywed am ei brofiadau o redeg busnes dwyieithog llwyddiannus a'r hyn y mae'r Gymraeg yn ei olygu iddo.

Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Ymunwch fan hyn

  • Pryd: 12pm
  • Ble: Microsoft Teams