Maw
18
2025

Clwb Clebran mis Mawrth gyda'r actores Catherine Ayres

Rydym yn croesawu'r actores Catherine Ayres i'r Clwb Clebran y mis hwn. Mae Catherine yn dod o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw gyda'i theulu yng Nghaerdydd.

Dechreuodd Catherine actio pan oedd hi'n dal yn yr ysgol yn astudio ar gyfer Safon Uwch wrth iddi gael rhan yn Pobl y Cwm, ac ers hynny mae wedi ymddangos mewn nifer o ddramâu ar S4C, gan gynnwys Cowbois ac Injans, Teulu ac Un Bore Mercher.

Roedd rôl ddiweddaraf Catherine yn 'Missing You' ar Netflix.

Dewch draw i'r Clwb Clebran ddydd Mawrth, 18 Mawrth am 12.30-1.30pm ar Teams, i wrando ar Catherine.

Os oes gennych gwestiwn, defnyddiwch y cyfleuster 'sgwrsio' yn ystod y sesiwn neu e-bostiwch iaithgymraeg@sirgar.gov.uk cyn y diwrnod.

Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Gallwch ymuno â'r sesiwn yma

  • Pryd: 12.30
  • Ble: Microsoft Teams