Rhag
18
2025

Clwb Clebran mis Rhagfyr - Blodau Caerdig

Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn olaf y Clwb Clebran am y flwyddyn, a hynny mewn awyrgylch hamddenol a Nadoligaidd, pan fydd Blodau Caredig yn dangos i ni sut i greu torch Nadolig.

Dechreuodd Lowri Johnston ei busnes wrth chwilio am ffordd fwy cydnaws â'r amgylchedd o fwynhau blodau ffres. O'r freuddwyd hon, crëwyd Blodau Caredig, gan dyfu blodau tymhorol ar ddarn o dir yn Nantgaredig. Roedd tymor tyfu llawn cyntaf Blodau Caredig yn 2024, ac erbyn hyn mae'r cwmni'n cyflenwi blodau i fusnesau lleol, trefnwyr blodau, a phriodasau. Bydd y sesiwn yn gyfle gwych i glywed mwy am daith Lowri, yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r busnes, a sut y gall blodau lleol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r amgylchedd.

Dewch i’r Clwb Clebran ddydd Iau, 18 Rhagfyr, 12:30-13:30 ar Microsoft Teams i ddarganfod mwy.

Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Ymunwch â'r sesiwn yma

  • Pryd: 12:30-13:30
  • Ble: Microsoft Teams