Chw
06
2025

Diwrnod Amser i Siarad

Mae gan bawb iechyd meddwl, a thrwy sôn amdano gallwch helpu eich hun ac eraill i sicrhau llesiant cadarnhaol.

Beth yw Diwrnod Amser i Siarad?

Diwrnod Amser i Siarad yw sgwrs fwyaf y genedl am iechyd meddwl ac mae'n cael ei gynnal ddydd Iau, 6 Chwefror 2025. Mae'r diwrnod hwn yn ymwneud â siarad yn agored a chreu cymunedau cefnogol ymysg eich ffrindiau, teuluoedd, gweithleoedd a chydweithwyr; mae'n ddiwrnod i ddod at eich gilydd i siarad, gwrando a newid bywydau.

Pam mae siarad yn bwysig?

Mae siarad am ein hiechyd meddwl yn bwysicach nag erioed.

  • ·       Nid yw siarad yn arwydd o wendid
  • ·       Mae siarad yn lleihau stigma
  • ·       Mae’n gwella eich perthynas ag eraill
  • ·       Mae’n eich helpu i wella
  • ·       Mae siarad yn eich helpu i deimlo'n ddiogel
  • ·       Rydych yn teimlo eich bod yn gallu gofyn am gymorth pan fydd ei angen arnoch
  • ·       Gall gwrando ar rywun helpu'r person hwnnw i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi ac yn llai unig.
  •  Mae'n rhan o fod yn gyfrifol am llesiant eich hun, a'r hyn y gallwch ei wneud i gadw'n iach.

Pan fydd un person yn siarad, bydd eraill yn ymuno.

Ymunwch â'r Tîm Iechyd a Llesiant ar 6 Chwefror 2025 am 12:30 drwy Teams a chael trafodaeth agored am iechyd meddwl a sut y gallwch gynnwys y trafodaethau hyn yn eich timau.

Ymunwch â'r e-sgwrs yma: Echat Amser i Siarad

  • Pryd: 12:30
  • Ble: Teams