Gor
10
2025

Gweminar My Money Matters

A wnaethoch chi golli sioeau teithiol My Money Matters diweddar?

Peidiwch â becso! Rydyn ni'n eich gwahodd i sesiwn weminar ddydd Iau, 10 Gorffennaf am 1pm-1.45pm drwy Microsoft Teams, fydd yn sôn am y cynllun Rhannu Cost AVC a sut y gall hyn eich helpu i ymddeol yn gynnar neu gyda mwy o arian!

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â My Money Matters, llwyfan llesiant ariannol, sydd wedi'i gynllunio i roi mynediad i chi at addysg wedi'i theilwra gan gynnwys Rhannu Cost AVC. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi arbed Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ogystal â threth, sy'n golygu y bydd eich cyflog ar ôl didyniadau yn cynyddu o gymharu â thalu AVCs yn y modd safonol. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhagor am fuddion eich pensiwn prif gynllun, y cynllun Rhannu Cost AVC a'r buddion allweddol. 

Sylwer bod y cynllun ond ar gael i'r rhai sy'n cyfrannu at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Ymunwch ar-lein yma

  • Pryd: 1pm-1.45pm
  • Ble: Microsoft Teams