Maw
27
2026

Y Clwb Clebran – Cwis Cymraeg

Bydd y Clwb Clebran ychydig yn wahanol i'r arfer y mis hwn! 

Ar ddydd Gwener, 27 Mawrth, byddwn yn cynnal cwis hwyliog yn Gymraeg yng nghwmni Marci G.

Bydd y cwis ar Kahoot yn llawn cwestiynau am Gymru, diwylliant, hanes, cerddoriaeth, a mwy – felly mae hwn yn gyfle gwych i brofi eich gwybodaeth a chael hwyl dros amser cinio.
Dyddiad: 27 Mawrth
Amser: 12:30 – 13:30
Lleoliad: Timau

Gallwch gymryd rhan ar eich pen eich hun neu yn rhan o dimau yn eich adran, felly beth am wahodd cydweithwyr a chreu tîm? 

Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol. Does dim angen i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg i gymryd rhan. Mae hwn yn gyfle gwych i ymarfer ychydig o Gymraeg mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.

Ymunwch yma

  • Pryd: 12:30
  • Ble: Microsoft Teams