Polisi Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol - Ebrill 2025

1. Cyflwyniad

Daw'r Ddeddf Gofal Newyddenedigol (Absenoldeb a Thâl) i rym ar 6 Ebrill 2025.

Mae'r polisi hwn yn nodi hawliau gweithwyr i absenoldeb a thâl gofal newyddenedigol ar ôl genedigaeth neu fabwysiadu plentyn.

Mae absenoldeb gofal newyddenedigol statudol a hawliau eraill hefyd ar gael i weithwyr sy'n rhieni maeth yr awdurdod lleol mewn sefyllfa "maethu i fabwysiadu", neu weithwyr sy'n disgwyl dod yn rhieni cyfreithiol plentyn a anwyd o dan drefniant benthyg croth.

Rydym yn deall ei fod yn brofiad heriol a llawn straen os yw eich plentyn mewn gofal newyddenedigol. Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi a gwneud yr hyn y gallwn i helpu i sicrhau eich bod yn gallu bod wrth ochr eich plentyn gan ofalu am eich iechyd a'ch llesiant eich hun.


2. Cwmpas

Mae'r polisi a'r weithdrefn hon yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol y mae polisi ar wahân yn berthnasol iddynt. Yn absenoldeb polisi y cytunwyd arno'n lleol gan ysgolion unigol, gan fod hyn yn hawl statudol, dylid dilyn egwyddorion y polisi hwn.


3. Beth yw Gofal Newyddenedigol?

Mae absenoldeb gofal newyddenedigol wedi'i gynllunio i gynorthwyo rhieni newydd babanod sy'n cael eu derbyn i ofal newyddenedigol.

Yn y polisi hwn, mae gofal newyddenedigol yn golygu:

•  gofal meddygol y mae eich plentyn yn ei dderbyn mewn ysbyty.

•  gofal meddygol y mae eich plentyn yn ei dderbyn mewn unrhyw le arall ar yr amod: 

  • y cafodd eich plentyn ei dderbyn i ysbyty o'r blaen fel claf mewnol a bod arno angen gofal parhaus ar ôl gadael yr ysbyty.
  • bod y gofal o dan gyfarwyddyd meddyg ymgynghorol; a
  • bod y gofal yn cynnwys monitro ac ymweliadau parhaus gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd a drefnir gan yr ysbyty lle roedd eich plentyn yn glaf mewnol; neu

•    ofal lliniarol neu ofal diwedd oes.


4. Cymhwysedd ar gyfer Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

eth bynnag yw hyd eich gwasanaeth, mae gennych hawl statudol i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar ddyddiad geni'r plentyn:

•    mai chi yw rhiant y plentyn a bod gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn; neu

•    rydych yn bartner i fam y plentyn a bod gennych y prif gyfrifoldeb am fagu'r plentyn (ar wahân i'r fam).

Yn y polisi hwn, mae partner yn cynnwys rhywun o unrhyw ryw sy'n byw gyda'r fam neu'r plentyn mewn perthynas deuluol barhaus ond nad yw'n blentyn, rhiant, ŵyr/wyres, tad-cu/mam-gu, brawd/chwaer, modryb, ewythr, nith neu'n nai i'r fam.

O ran mabwysiadu yn y DU, mae gennych hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar y dyddiad y rhoddir y plentyn i'w fabwysiadu:

•    mai chi yw mabwysiadwr y plentyn a bod gennych neu'ch bod yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn.

•    mai chi yw darpar fabwysiadwr y plentyn (mewn trefniant "maethu i fabwysiadu") a bod gennych neu'ch bod yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn; neu

•    rydych yn bartner i fabwysiadwr neu ddarpar fabwysiadwr y plentyn a bod gennych y prif gyfrifoldeb am fagu'r plentyn (ar wahân i'ch partner).

O ran mabwysiadu o dramor, mae gennych hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar y dyddiad pan mae'r plentyn yn dod i Brydain Fawr:

•    mai chi yw mabwysiadwr tramor y plentyn a bod gennych neu'ch bod yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn; neu

•    rydych yn bartner i fabwysiadwr tramor y plentyn a bod gennych y prif gyfrifoldeb am fagu'r plentyn (ar wahân i'ch partner).

Os ydych chi'n cael plentyn drwy drefniant benthyg croth, mae gennych hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol os, ar ddyddiad geni'r plentyn:

•    rydych wedi gwneud cais neu'n bwriadu gwneud cais am orchymyn rhiant o fewn cyfnod o chwe mis.

•    rydych yn disgwyl i'r gorchymyn rhiant gael ei ganiatáu; ac

•    os oes gennych neu rydych yn disgwyl y bydd gennych gyfrifoldeb am fagu'r plentyn.

Yn ogystal, mae'n rhaid bodloni'r amodau canlynol:

•    cafodd eich plentyn ei eni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2025.

•    dechreuodd eich plentyn dderbyn gofal newyddenedigol o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y cafodd ei eni (mae'r 28 diwrnod yn cael eu cyfrif o'r diwrnod ar ôl i'r plentyn gael ei eni).

•    mae'r gofal newyddenedigol wedi para am saith diwrnod neu fwy heb doriad (mae'r saith diwrnod yn cael eu cyfrif o'r diwrnod ar ôl i'r gofal newyddenedigol ddechrau).

•    rydych chi'n cymryd yr absenoldeb i ofalu am eich plentyn; a

•    rydych wedi cydymffurfio â'r gofynion perthnasol o ran rhoi rhybudd a datganiad a nodir yn y polisi hwn.


5. Faint o Absenoldeb ac Amseriad

Faint o absenoldeb gofal newyddenedigol y gallwch ei gymryd

Gallwch gymryd un wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol am bob wythnos y mae eich plentyn wedi'i threulio mewn gofal newyddenedigol heb doriad.  Diffinnir wythnos fel cyfnod o saith diwrnod sy'n dechrau o'r diwrnod ar ôl i'r gofal newyddenedigol ddechrau.
 
Mewn achosion sy'n ymwneud yn benodol â mabwysiadu, mae eich hawl yn dechrau naill ai ar ôl i'r plentyn gael ei roi i'w fabwysiadu (yn achos mabwysiadu yn y DU) neu ar ôl i'r plentyn ddod i Brydain Fawr (yn achos mabwysiadu o dramor). 

Uchafswm nifer yr wythnosau y gallwch eu cymryd fel absenoldeb gofal newyddenedigol yw 12 wythnos.

Rhaid cymryd unrhyw absenoldeb gofal newyddenedigol mewn blociau o un wythnos o leiaf.

Dim ond hyd at 12 wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol y gallwch eu cymryd, hyd yn oed os oes angen gofal newyddenedigol ar sawl plentyn o'r un beichiogrwydd.

Amseriad absenoldeb gofal newyddenedigol

Gallwch ddechrau eich absenoldeb ar unrhyw ddiwrnod ar ôl i'ch plentyn dderbyn saith diwrnod o ofal newyddenedigol di-dor.

Mae'r saith diwrnod yn cael eu cyfrif o'r diwrnod ar ôl i'r gofal newyddenedigol ddechrau. Er enghraifft, os yw eich plentyn wedi dechrau derbyn gofal newyddenedigol ar 7 Ebrill, dechreuir cyfrif y saith diwrnod ar 8 Ebrill. Mae hyn yn golygu y gallwch ddechrau eich absenoldeb gofal newyddenedigol ar unrhyw ddiwrnod o 15 Ebrill.

Rhaid i unrhyw absenoldeb gofal newyddenedigol ddod i ben o fewn 68 wythnos i ddyddiad geni eich plentyn.

Mae'r hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol yn ychwanegol at unrhyw absenoldeb statudol arall y gallech fod â hawl iddo, fel absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhiant cyffredin, absenoldeb rhieni mewn profedigaeth neu absenoldeb rhiant a rennir.

Sut y gellir cymryd absenoldeb gofal newyddenedigol

Gellir cymryd absenoldeb gofal newyddenedigol mewn dwy haen:

•    Mae'r "cyfnod haen 1" yn dechrau pan fydd eich plentyn yn dechrau derbyn gofal newyddenedigol ac yn gorffen ar y seithfed diwrnod ar ôl i'ch plentyn gael ei ryddhau. Os ydych chi'n cymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn y cyfnod haen 1, gallwch ei gymryd mewn un bloc parhaus neu nifer o flociau nad ydynt yn barhaus o un wythnos ar y tro o leiaf. 

•    Y "cyfnod haen 2" yw unrhyw gyfnod sy'n weddill (o fewn 68 wythnos i ddyddiad geni eich plentyn) nad yw'n rhan o'r cyfnod haen 1. Os ydych chi'n cymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn ystod y cyfnod haen 2, rhaid i chi gymryd yr absenoldeb mewn un bloc parhaus.

Dylech fod yn ymwybodol bod y gofynion perthnasol o ran rhoi rhybudd yn wahanol gan ddibynnu ar a ydych chi'n cymryd eich absenoldeb yn y cyfnod haen 1 neu haen 2 (gweler isod).


6. Gofynion o ran rhoi rhybudd

Rhybudd yn ystod y cyfnod haen 1 

Ar gyfer pob wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol yr hoffech ei chymryd yn haen 1, dylech roi gwybod i'ch rheolwr llinell a'r Tîm Absenoldeb, yn ddelfrydol cyn eich diwrnod cyntaf o absenoldeb yn yr wythnos honno. Fodd bynnag, rydym yn deall bod hwn yn debygol o fod yn amser heriol i chi, felly rhowch rybudd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i chi wneud hynny.

Mae'n ofynnol i chi hefyd roi rhybudd ynghylch eich bwriad a'ch hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol gan ddefnyddio ein ffurflen gais am Absenoldeb Gofal Newyddenedigol (i'w chwblhau). Mae'r ffurflen hon yn cynnwys datganiad y bydd angen i chi ei lofnodi.

Nid oes disgwyl i chi lenwi'r ffurflen hon ar unwaith tra bod eich plentyn yn derbyn gofal newyddenedigol. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i chi anfon y ffurflen atom o fewn 28 diwrnod i ddiwrnod cyntaf eich absenoldeb gofal newyddenedigol neu, os nad yw hyn yn bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. 
 
Rhybudd yn ystod y cyfnod haen 2

Os ydych am gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn y cyfnod haen 2, bydd angen i chi roi rhybudd ysgrifenedig ynghylch eich bwriad a'ch hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol gan ddefnyddio ein ffurflen gais am Absenoldeb Gofal Newyddenedigol (i'w chwblhau). Mae'r ffurflen hon yn cynnwys datganiad y bydd angen i chi ei lofnodi.

Os ydych chi'n cymryd un wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol, dylem dderbyn eich rhybudd o leiaf 15 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf rydych chi wedi'i ddewis i'ch absenoldeb ddechrau neu, os nad yw hyn yn bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Os ydych chi'n cymryd dwy wythnos neu fwy yn olynol o absenoldeb gofal newyddenedigol, dylem dderbyn eich rhybudd o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf rydych chi wedi'i ddewis i'ch absenoldeb ddechrau neu, os nad yw hyn yn bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

 


7. Cymhwysedd ar gyfer Tâl Gofal Newyddenedigol Ychwanegol

Byddwch yn parhau i gael eich talu yn ôl eich cyfradd tâl arferol tra byddwch yn cymryd absenoldeb gofal newyddenedigol ar yr amod:

•    bod gennych hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol.

•    bod gennych o leiaf 26 wythnos o gyflogaeth ddi-dor gyda ni ar ddiwedd yr wythnos berthnasol.

•    eich bod yn parhau i fod mewn cyflogaeth ddi-dor o ddiwedd yr wythnos berthnasol (neu o enedigaeth y plentyn os cafodd ei eni cyn yr wythnos berthnasol).

•    nad yw eich enillion wythnosol cyfartalog yn llai na'r isafswm enillion ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol.

•    eich bod wedi cydymffurfio â'r gofynion perthnasol o ran rhoi rhybudd a thystiolaeth ac yn gallu darparu'r datganiadau fel y nodir yn y polisi hwn; ac

•    eich bod wedi cadarnhau pryd yr hoffech ddechrau derbyn tâl gofal newyddenedigol statudol yn eich ffurflen gais am Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.

Mae tâl gofal newyddenedigol ychwanegol yn cynnwys unrhyw hawl i dâl gofal newyddenedigol statudol a all fod yn ddyledus i chi am yr un cyfnod.


8. Dechrau eich Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

Bydd eich absenoldeb gofal newyddenedigol yn dechrau ar y dyddiad a nodir yn eich rhybudd.

Fel arall, os ydych chi'n rhoi rhybudd ar yr un diwrnod ag yr ydych am ddechrau eich absenoldeb a'ch bod eisoes yn y gwaith ar y diwrnod hwnnw, bydd eich absenoldeb gofal newyddenedigol yn dechrau ar y diwrnod canlynol.

Os ydym wedi cytuno i hepgor y gofynion o ran rhoi rhybudd, bydd eich absenoldeb gofal newyddenedigol yn dechrau ar ddiwrnod y cytunir arno rhyngom.


9. Newid eich cynlluniau o ran Absenoldeb Gofal Newyddenedigol

Os ydych wedi cyflwyno rhybudd ynghylch bwriad a hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn ystod y cyfnod haen 2 ond yn dymuno canslo eich absenoldeb, rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb gan ddefnyddio ein ffurflen canslo Absenoldeb Gofal Newyddenedigol.

Os oeddech chi'n bwriadu cymryd un wythnos o absenoldeb gofal newyddenedigol, rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen hon o leiaf 15 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf yr oeddech wedi'i ddewis i ddechrau eich absenoldeb.

Os oeddech chi'n bwriadu cymryd dwy wythnos neu fwy yn olynol, rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen hon o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad cyntaf yr oeddech wedi'i ddewis i ddechrau eich absenoldeb.

Rhybudd hwyr

Rydym yn deall ei fod yn gyfnod anodd dros ben i rieni os yw eich plentyn mewn gofal newyddenedigol. Hoffwn eich sicrhau, os nad yw'n bosibl i chi gydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer rhoi rhybudd neu dynnu'r rhybudd yn ôl, fel y nodir yn y polisi hwn, y byddwn yn derbyn rhybudd hwyrach na hyn ac, mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn hepgor y gofyniad i chi roi rhybudd yn gyfan gwbl.

Newidiadau sy'n effeithio ar eich hawl i absenoldeb a thâl gofal newyddenedigol 

Rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb am y dyddiad y mae gofal newyddenedigol eich plentyn yn dod i ben cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gofal ddod i ben.

Os yw eich plentyn yn dechrau derbyn gofal newyddenedigol eto, ar ôl i chi roi gwybod i ni fod y gofal wedi dod i ben, rhaid i chi roi gwybod i'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb am y dyddiadau dechrau a gorffen newydd.

Os ydych chi'n dioddef profedigaeth
 
Gall gweithwyr sydd wedi cronni hawl i absenoldeb gofal newyddenedigol gymryd yr absenoldeb gofal newyddenedigol y maent wedi'i gronni os bydd eu plentyn yn marw.

Os ydych wedi dioddef profedigaeth, cysylltwch â'ch rheolwr llinell/y Tîm Absenoldeb fel y gallwn drafod cymorth arall y gallwn ei gynnig i chi.


10. Eich hawliau yn ystod absenoldeb gofal newyddenedigol

Yn ystod absenoldeb gofal newyddenedigol, bydd holl delerau ac amodau eich contract, heblaw eich cyflog arferol, yn parhau. Byddwch yn cael tâl gofal newyddenedigol ychwanegol os ydych yn gymwys i'w gael, yn lle eich cyflog. Fodd bynnag, bydd buddion eraill, fel eich hawl i wyliau, yn parhau i gronni a bydd cyfraniadau pensiwn yn parhau fel y nodir isod.

Hawl i wyliau

Bydd eich hawl i wyliau yn parhau i gronni yn ystod eich absenoldeb gofal newyddenedigol.

Gall unrhyw wyliau nad ydynt wedi'u cymryd oherwydd absenoldeb gofal newyddenedigol gael eu trosglwyddo i'r flwyddyn wyliau nesaf.

Cyfraniadau pensiwn

Byddwn yn parhau i wneud cyfraniadau pensiwn yn seiliedig ar eich cyflog arferol yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb gofal newyddenedigol â thâl. Bydd y cyfraniadau y byddwch chi'n eu gwneud yn seiliedig ar y tâl gwirioneddol a gewch yn ystod eich absenoldeb gofal newyddenedigol.

Bydd cyfraniadau pensiwn y sefydliad yn dod i ben yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb gofal newyddenedigol di-dâl.

Cyswllt yn ystod absenoldeb gofal newyddenedigol

Rydym yn cadw'r hawl i gynnal cyswllt rhesymol â chi yn ystod eich absenoldeb gofal newyddenedigol. Gall hyn fod i drafod eich cynlluniau o ran cymryd absenoldeb, trafod unrhyw drefniadau arbennig er mwyn esmwytho eich amser i ffwrdd o'r gwaith, neu roi gwybod i chi am ddatblygiadau yn y gwaith yn ystod eich absenoldeb.


11. Absenoldeb Statudol Arall

Mae gennych hawl i gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn ychwanegol at unrhyw absenoldeb statudol arall y gallech fod â hawl iddo, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhiant cyffredin, absenoldeb rhieni mewn profedigaeth ac absenoldeb rhiant a rennir.

Os ydych eisoes wedi dechrau cyfnod o absenoldeb statudol, ond wedi hynny yn gymwys i gael absenoldeb gofal newyddenedigol, gallwch gymryd eich absenoldeb gofal newyddenedigol ar ôl cwblhau'r absenoldeb statudol arall, ar yr amod bod eich absenoldeb gofal newyddenedigol yn cael ei gymryd o fewn 68 wythnos i ddyddiad geni eich plentyn.

Os ydych eisoes wedi dechrau cyfnod o absenoldeb gofal newyddenedigol yn ystod y cyfnod haen 1 ond bod angen i chi ddechrau math arall o absenoldeb statudol, bydd eich absenoldeb gofal newyddenedigol yn cael ei atal dros dro yn union cyn i'r absenoldeb statudol arall ddechrau. Yna gallwch ailddechrau'r wythnosau sy'n weddill o'ch absenoldeb gofal newyddenedigol mewn un o ddwy ffordd:

•    os ydych chi'n dal o fewn y cyfnod haen 1 - yn syth ar ôl diwedd y cyfnod arall o absenoldeb statudol; neu

•    os ydych wedi trosglwyddo i'r cyfnod haen 2 - yn syth ar ôl unrhyw absenoldeb gofal newyddenedigol arall a gymerwyd yn ystod y cyfnod haen 2.

Ni allwch gymryd absenoldeb gofal newyddenedigol yn y cyfnod haen 2 os, ar adeg rhoi'r rhybudd, rydych chi'n ymwybodol y bydd yr absenoldeb yn gorgyffwrdd â math arall o absenoldeb statudol.


12. Sicrhau Triniaeth Gyfartal

Rhaid i bob gweithiwr fabwysiadu agwedd gadarnhaol, agored a theg a gofalu y cedwir at Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod ac y caiff ei weithredu’n gyson heb ystyried hil, lliw, cenedligrwydd, gwreiddiau ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd a chred neu ddiffyg cred, oed, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd a mynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd neu famolaeth, statws priodasol neu bartneriaeth sifil.

Yn ogystal, mae Safonau'r Gymraeg yn gofyn i ni 'sicrhau nad yw'r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg' a dylid cymhwyso'r egwyddor hon.

Os oes gennych unrhyw bryderon cydraddoldeb ac amrywiaeth ynghylch gweithredu’r polisi a’r weithdrefn hon, dylech gysylltu ag aelod o’r Tîm Adnoddau Dynol a fydd, os oes angen, yn sicrhau y caiff y polisi/gweithdrefn ei hadolygu yn ôl y galw.

Os oes angen copi o'r cyhoeddiad hwn arnoch mewn fformat arall, cysylltwch â Rheoli Pobl drwy anfon e-bost at CHR@sirgar.gov.uk