Rôl y Cydymaith yn ystod y Broses Ddisgyblu ac Achwyniadau
1. Cyflwyniad
Mae gan gyflogeion sy'n cyflwyno achwyniad neu sy'n destun gweithdrefn ddisgyblu'r Awdurdod yr hawl i gael cydymaith ar gamau priodol o'r weithdrefn (gweler y weithdrefn i gael manylion).
Mae'n rhaid hysbysu cyflogeion am yr hawl hon a rhoi'r amser priodol iddynt gael hyd i gydymaith a rhoi cyfarwyddyd iddo/iddi.
Bydd y cydymaith yn cael copïau o’r holl ohebiaeth, adroddiadau ac ati mewn perthynas â’r broses ddisgyblu neu achwyniadau oni bai bod y cyflogai’n dynodi fel arall.
2. Pryd mae’r hawl yn berthnasol?
Mae gan gyflogeion yr hawl statudol i gael cydymaith lle gallai'r cyfarfod disgyblu arwain at y canlynol:
- rhoi rhybudd ffurfiol i’r cyflogai (h.y. rhybudd a fydd yn cael ei roi ar gofnod y cyflogai);
- cymryd rhai camau disgyblu eraill (megis diraddio neu ddiswyddo) neu gamau eraill; neu
- cadarnhau rhybudd neu ryw weithred ddisgyblu arall (megis gwrandawiad apêl).
Mae gan gyflogeion hawl statudol i ddod â chydymaith gyda hwy i gyfarfod achwyniad sy’n ymdrin â chŵyn ynghylch dyletswydd sydd ar y cyflogwr tuag at y cyflogai, er enghraifft os ceir achos o dorri deddfwriaeth neu un o’r telerau mewn contract.
Nid oes hawl statudol i gael cydymaith mewn trafodaethau anffurfiol, sesiynau cwnsela neu gyfarfodydd ymchwilio. Nid yw cyfarfodydd sy'n ymchwilio i fater yn gyfarfodydd disgyblu. Os daw'n amlwg y gallai fod angen cymryd camau disgyblu ffurfiol, yna dylid ymdrin â hyn mewn cyfarfod ffurfiol lle bydd gan y cyflogai hawl statudol i gael cydymaith.
Fodd bynnag, bydd yr Awdurdod yn ymestyn yr hawl i ofyn am gydymaith i gyflogai sy'n destun ymchwiliad anffurfiol ar yr amod nad yw hyn yn oedi'r broses yn ormodol.
3. Pwy all fod yn gydymaith?
- cydweithiwr
- swyddog a gyflogir gan undeb llafur.
- cynrychiolydd undeb llafur yn y gweithle, cyhyd â'i fod wedi cael ei ardystio'n rhesymol yn ysgrifenedig gan ei undeb fel un sydd â phrofiad o fod yn gydymaith i weithiwr mewn gwrandawiadau disgyblu neu achwyniadau, neu sydd wedi cael hyfforddiant i wneud hynny. Gall ardystiad fod ar ffurf cerdyn neu lythyr.
4. Beth yw cais rhesymol?
Wrth ddewis cydymaith dylai cyflogai gofio na fyddai’n rhesymol mynnu cael cwmni cydweithiwr y byddai ei bresenoldeb yn niweidiol i’r gwrandawiad neu a allai fod â gwrthdaro buddiannau. Ni fyddai'n rhesymol ychwaith ofyn i gydweithiwr o leoliad anghysbell fod yn gydymaith pan fydd rhywun â chymwysterau addas ar gael ar y safle. Nid oes rhaid i'r cais am gydymaith gael ei wneud yn ysgrifenedig.
5. Hyfforddiant ac amser o’r gwaith i weithredu fel cydymaith.
Dylai undebau llafur sicrhau bod eu swyddogion wedi cael eu hyfforddi yn y rôl i weithredu fel cydymaith i gyflogai. Hyd yn oed pan fydd gan swyddog undeb llafur brofiad o weithredu yn y rôl hon, mae'n bosibl y bydd angen hyfforddiant gloywi o bryd i'w gilydd.
Mae gan weithiwr sydd wedi cytuno i fod yn gydymaith i gydweithiwr a gyflogir gan yr un cyflogwr hawl i gymryd amser rhesymol o’r gwaith i gyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw. Dylai hyn gynnwys y gwrandawiad ac mae hefyd yn arfer da caniatáu amser i'r cydymaith ymgyfarwyddo â'r achos ac ymgynghori â'r gweithiwr cyn ac ar ôl y gwrandawiad. Caniateir i swyddog undeb llafur lleyg gael amser rhesymol o'r gwaith â thâl i fod yn gydymaith i weithiwr mewn gwrandawiad, cyhyd â bod y gweithiwr yn cael ei gyflogi gan yr un cyflogwr. Mewn achosion lle mae swyddog lleyg yn cytuno i fod yn gydymaith i weithiwr a gyflogir gan sefydliad arall, mae amser o'r gwaith yn fater i'r partïon dan sylw gytuno arno.
6. Gweithredu'r Hawl
Dylai’r Awdurdod ganiatáu i gydymaith fod â llais wrth drafod dyddiad ac amser gwrandawiad. Os na all y cydymaith fod yn bresennol ar ddyddiad arfaethedig, gall y cyflogai awgrymu amser a dyddiad arall cyhyd â bod hynny'n rhesymol ac nad yw'n fwy na saith diwrnod calendr ar ôl y dyddiad gwreiddiol.
Cyn i'r gwrandawiad gael ei gynnal, dylai'r cyflogai ddweud wrth yr awdurdod pwy mae wedi'i ddewis i fod yn gydymaith. Mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft pan fydd y cydymaith yn swyddog undeb llafur nad yw'n cael ei gydnabod) gall fod yn ddefnyddiol i'r cydymaith a chynrychiolydd o'r awdurdod gysylltu cyn y gwrandawiad.
Dylid caniatáu i’r cydymaith annerch y gwrandawiad er mwyn:
- cyflwyno achos y cyflogai.
- crynhoi achos y cyflogai.
- ymateb ar ran y cyflogai i unrhyw farn a fynegir yn y gwrandawiad.
Gall y cydymaith ymgynghori â’r cyflogai yn ystod y gwrandawiad hefyd. Mae'n arfer da caniatáu i'r cydymaith gymryd rhan mor llawn â phosibl yn y gwrandawiad, gan gynnwys gofyn cwestiynau i'r tystion. Fodd bynnag, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r awdurdod ganiatáu i'r cydymaith ateb cwestiynau ar ran y cyflogai, nac annerch y gwrandawiad os nad yw'r gweithiwr yn dymuno hynny, nac atal yr awdurdod rhag egluro ei achos.
Yn yr un ffordd ag y dylai cyflogwyr ddarparu ar gyfer anabledd gweithiwr mewn gwrandawiad disgyblu neu achwyniad, dylent hefyd ddarparu ar gyfer anabledd cydymaith, er enghraifft trwy ddarparu mynediad ar gyfer cadair olwyn os oes angen.
Ni ddylai cyflogeion gael eu rhoi dan anfantais o ganlyniad i ddefnyddio’u hawl i ddod â chydymaith neu am fod yn gymdeithion.
