Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020
Yn yr adran hon
9. Recriwtio a Phenodi
Pan fo swydd amser llawn neu gyfran o swydd a rennir yn dod yn wag, bydd y weithdrefn recriwtio ganlynol yn berthnasol:
- Bydd yr holl hysbysebion recriwtio ar gyfer swydd amser llawn/cyfran o swydd a rennir, yn fewnol ac yn allanol, yn cynnwys datganiad cyffredinol yn nodi bod y swydd ar gael i'w rhannu (oni chytunwyd ar eithriad).
- Bydd y Polisi Rhannu Swyddi ar gael i ymgeiswyr ei ddarllen ar dudalen 'Swyddi a Gyrfaoedd' Gwefan Gorfforaethol y Cyngor.
Wrth lunio rhestr fer a gwneud penodiad, dilynir darpariaethau'r Weithdrefn Recriwtio a Dethol ar hyd yr amser.
Bydd pob ymgeisydd sy'n gwneud cais am swydd gyda'r bwriad o'i rhannu (gyda neu heb bartner) yn cael cyfweliad, ac yn cael ei asesu'n unigol a'i ddethol ar sail teilyngdod ac addasrwydd ar gyfer y swydd yn unig, a hynny yn erbyn y meini prawf dethol.
Lle dewisir ymgeisydd sydd am rannu swydd, dylid cynnig gweddill y swydd, ar sail rhannu swydd, i'r ymgeiswyr eraill, gan gadw'n fanwl at drefn eu haddasrwydd ar gyfer y swydd, p'un a oedd eu cais gwreiddiol yn nodi eu bod am rannu swydd neu beidio.
Os na fydd ymgeiswyr addas yn derbyn y swydd ar sail ei rhannu, dylid hysbysebu'r swydd eto, ar sail rhannu swydd.
Wrth geisio dod o hyd i bartner rhannu swydd arall dylai'r rheolwr ystyried pa drefniadau dros dro y gellir eu gwneud i lenwi'r oriau sy'n weddill, er enghraifft, dyletswyddau uwch, cyflenwi dros dro ac ati. Fel arall, gellir gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio oriau ychwanegol hyd at amser llawn dros dro; ond ni fydd yn ofynnol iddo wneud hynny.
Os na cheir hyd i bartner addas ar ôl cyfnod rhesymol o amser (heb fod yn llai na thri mis, a heb fod yn fwy na chwe mis), bydd y weithdrefn ganlynol yn berthnasol:
- Cynigir y swydd ar sail amser llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus a benodwyd ar sail rhannu swydd; neu
- Os nad yw'r gweithiwr yn dymuno derbyn y swydd ar sail amser llawn, gall gynnig trefniant gweithio hyblyg arall i'r rheolwr ei ystyried, e.e. gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn lle 5.
Os na fydd y rheolwr a/neu'r gweithiwr yn barnu bod y naill na'r llall o'r dewisiadau uchod yn ddichonadwy, wedi trafod gydag Ymgynghorydd AD, bydd y canlynol yn berthnasol:
- Archwilio adleoli i swydd arall a rennir sy'n wag neu swydd ran-amser, yn unol â'r polisi a'r weithdrefn Adleoli; neu
- Unwaith bydd y dewisiadau uchod wedi cael eu harchwilio'n llawn, terfynir penodiad y gweithiwr sy'n weddill sy'n rhannu'r swydd, gan roi rhybudd dyladwy.
Unwaith y ceir hyd i bartner(iaid) rhannu swydd addas trwy gyfweliad, a phenderfynir cynnig y swydd(i), gwneir cynigion penodi ffurfiol yn amodol ar gytuno ar y trefniadau gwaith, rhwng y rheolwr llinell a'r partneriaid rhannu swydd.
Os na ellir dod i gytundeb ffurfiol ar fanylion y swydd unigol sy'n cael ei rhannu yna ni chaiff y penodiad ei gadarnhau ac ailhysbysebir y swydd/swyddi.
Os bydd un o'r gweithwyr sy'n rhannu'r swydd yn gadael, bydd y rhan sy'n wag o'r swydd a rennir yn cael ei hadolygu gan reolwr y gyllideb, ac yn amodol ar anghenion darparu'r gwasanaeth, y sefyllfa gyllidebol ac ati, gellir cynnig y gyfran sy'n weddill o'r swydd i'r partner arall.
Os nad yw'r partner sy'n weddill yn dymuno gweithio'r oriau llawn, bydd y rhan o'r swydd a rennir sy'n wag yn cael ei hailhysbysebu fel swydd a rennir, yn unol â'r broses arferol ar gyfer cymeradwyo swyddi gwag a'r Polisi a'r Weithdrefn Recriwtio a Dethol.