Polisi a Gweithdrefn Rhannu Swyddi - Medi 2020

6. Sut Gellir Cyflwyno Rhanbu Swydd

Gellir cyflwyno rhannu swydd mewn sawl ffordd:

  • Gall gweithiwr presennol wneud cais ffurfiol am rannu ei swydd bresennol trwy'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg.
  • Gall dau weithiwr presennol wneud cais ar y cyd i rannu swydd trwy'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg.
  • Gall ymgeisydd mewnol/allanol ofyn i'w gais am swydd wag gael ei ystyried ar sail rhannu swydd trwy'r gweithdrefnau recriwtio a dethol.
  • Gellir cyflwyno dau gais neu fwy ar wahân, boed hynny'n fewnol neu'n allanol, y gellir eu cyfuno i greu uned rhannu swydd.