Canllawiau i Reolwyr ar Wiriadau a Hunanddateliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Ebrill 2024

ADRAN 2: CYFRIFOLDEBAU'R RHEOLWYR

10. Recriwtio i Swydd a allai fod yn gymwys ar gyfer gwiriad DBS

Dylech ddefnyddio'r canllawiau canlynol ochr yn ochr â'r Polisi Recriwtio Mwy Diogel a'r Polisi Recriwtio Cyn-droseddwyr.

Pan fyddwch yn recriwtio i swydd wag neu newydd, dylech adolygu / diweddaru'r Proffil Swydd presennol neu ysgrifennu Proffil Swydd newydd.

Dylai’r Proffil Swydd nodi’n glir:

  • Gofynion a chyfrifoldebau diogelu'r rôl, fel maint y cyswllt â phlant ac oedolion sy'n wynebu risg, neu'r cyfrifoldeb drostynt.

  • Cyfrifoldeb yr unigolyn dros hyrwyddo a diogelu llesiant y plant a'r oedolion mewn perygl y maent yn gyfrifol amdanynt, neu y byddant yn dod i gysylltiad â nhw.

  • Y gofynion angenrheidiol er mwyn cyflawni'r rôl mewn perthynas â gweithio gyda phlant ac oedolion sy'n wynebu risg.

  • Y cymwyseddau, y gwerthoedd, a'r rhinweddau y dylai'r ymgeisydd llwyddiannus allu eu harddangos.

  • Y math o wiriad DBS y gofynnir amdano ar gyfer y rôl (os o gwbl).

Mae'r Rheolwr Recriwtio a'r Cydlofnodwr yn gyfrifol am sicrhau bod rôl y swydd yn gymwys ar gyfer y gwiriad DBS a geisir.

Ni cheir ond gofyn am gael cynnal Gwiriad DBS ar ôl cynnig swydd yn amodol.

Data personol cyfrinachol yw'r wybodaeth a ddarperir drwy broses wirio'r DBS, ac ni cheir eu rhannu ag unrhyw un nad oes ganddynt hawl i'w gweld. Os canfyddir bod unrhyw un wedi gweithredu'n groes i'r rheol hon, gallai wynebu camau disgyblu.

Mae'n ofynnol cynnal datgeliadau DBS ar gyfer pob cyflogai newydd (i’r Cyngor), gweithiwr asiantaeth a gwirfoddolwr a benodir i weithio mewn swydd lle mae'n ofynnol cynnal gwiriad DBS, cyn iddynt gychwyn eu swydd. Dylech ganiatáu hyd at 4 wythnos i brosesu gwiriad DBS - dylech gynnwys hyn yn rhan o'ch cynllun recriwtio i sicrhau bod modd cwblhau'r holl wiriadau cyn y bydd angen i'r cyflogai ddechrau ei swydd.

Ni fydd manylion cyflogeion newydd yn cael eu sefydlu ar systemau AD na chyflogres nes bo'r holl wiriadau cyn cyflogaeth, gan gynnwys gwiriadau DBS, wedi'u cwblhau'n foddhaol.

Felly, lle nodwyd bod gwiriad DBS yn ofynnol ar gyfer swydd, ni chaiff ddechrau ei waith nes bo'r dystysgrif DBS wedi'i derbyn a'i hasesu gan y Gwasanaethau Pobl a'r Rheolwr Recriwtio.

Os oes amgylchiadau eithriadol a fyddai yn eich tyb chi'n caniatáu i gyflogai, gwirfoddolwr neu weithiwr asiantaeth gychwyn cyn cwblhau gwiriadau DBS, dylech siarad â'ch rheolwr llinell a'ch Partner Busnes Adnoddau Dynol CYN i'r cyflogai ddechrau ei waith. Gallai hyn gynnwys sefyllfa lle na fydd cyflogai yn gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n agored i niwed ar unwaith, ee, i fynd i dderbyn hyfforddiant i ffwrdd o'r swydd, neu lle na fydd y cyflogai yn gweithio heb oruchwyliaeth nes derbyn y gwiriad DBS. Fodd bynnag, ystyrir hyn yn ddewis olaf.

Gallai methu cwblhau'r gwiriadau priodol beryglu defnyddwyr eich gwasanaeth a'ch cydweithwyr Bydd manylion Rheolwyr Recriwtio/Penaethiaid nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion gwirio DBS yn cael eu rhannu â'r Grŵp Diogelu Corfforaethol, a llythyr rhybuddio yn cael ei anfon atynt. Os ceir unrhyw achos pellach o ddiffyg cydymffurfio, gofynnir i'r Rheolwr Recriwtio/Pennaeth ddod i gyfarfod ffurfiol â Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant. Ar ôl hynny gallai camau pellach gael eu cymryd, gan gynnwys camau disgyblu.

Am fanylion llawn y gofynion gwiriadau cyn cyflogi, edrychwch ar adran gwiriadau cyn cyflogi y dudalen recriwtio ar y Fewnrwyd Recriwtio.

Os yw’r darpar weithiwr wedi’i gofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru’r DBS, dylai’r Rheolwr Recriwtio wirio ei fod yn gallu dangos y dystysgrif DBS wreiddiol a bod y math o wiriad DBS a’r gweithlu a nodwyd ar y dystysgrif yn ddilys ar gyfer y swydd y mae wedi ymgeisio amdani.

Mae'n rhaid i gyflogeion cyfredol y Cyngor sy'n cael cynnig swydd newydd lle mae angen datgeliad DBS gael eu gwirio:

  1. os nad ydynt wedi derbyn gwiriad DBS o'r blaen; NEU
  2. os ydynt wedi derbyn gwiriad, ond bod eu tystysgrif DBS dros dair blwydd oed; NEU
  3. os yw'r dystysgrif DBS yn dair blwydd oed neu lai, ond nad yw'n ddilys ar gyfer y swydd y maent wedi gwneud cais amdani NEU
  4. os oes ganddynt y dystysgrif DBS briodol, ond eu bod yn symud i swydd sy'n wahanol iawn i'w swydd gyfredol, ee, gyrrwr i gynorthwyydd addysgu NEU
  5. os ydynt wedi newid eu henw drwy briodas, partneriaeth sifil, neu weithred newid enw ers eu gwiriad DBS diwethaf.

Ceisiadau Sensitif

Mae'r DBS yn cynnig gwasanaeth gwirio cyfrinachol i ymgeiswyr trawsryweddol sy'n rhoi'r dewis iddynt beidio â chael unrhyw wybodaeth am eu rhywedd na'u henw wedi'i datgelu ar eu tystysgrif DBS a allai ddatgelu eu hunaniaeth rhywedd flaenorol. Dylai'r ymgeisydd gysylltu â'r tîm Ceisiadau Sensitif ar 0300 106 1452 neu drwy e-bost sensitive@dbs.gov.uk

Cyflogi Pobl o Wledydd Tramor neu Ffoaduriaid mewn Gofal Cymdeithasol

Mae'r dolenni gwe canlynol yn rhoi canllawiau defnyddiol i reolwyr sy'n recriwtio staff o wledydd tramor neu sy'n ymdrin â cheisiadau gan ffoaduriaid.

Cyflogi pobl o wcrain ffoaduriaid mewn gofal cymdeithasol adnodd i ddarparwyr

Canllaw recriwtio rhyngwladol byr i ddarparwyr gofal cymdeithasol yn Lloegr

Adennill rhyngwladol

Gofynnir i ymgeiswyr sydd wedi gweithio neu breswylio dramor am chwe mis neu fwy yn y pum mlynedd blaenorol (ac eithrio aelodau o luoedd arfog y DU a’u teuluoedd) wneud cais am dystysgrifau o'r gwledydd perthnasol, a thalu am hynny eu hunain, yn unol â Chanllawiau perthnasol y DBS.

Gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymgeiswyr tramor