Canllawiau i Reolwyr ar Wiriadau a Hunanddateliadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Ebrill 2024
Yn yr adran hon
- ADRAN 1: TROSOLWG Cyflwyniad
- Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Mathau o Wiriadau DBS
- Mathau o Weithluoedd
- Asesu a yw'r Rôl yn Gymwys ar gyfer Gwiriad DBS
- Beth yw Gweithgaredd a Reoleiddir?
- Ailwirio staff presennol
- Gwiriadau DBS ar gyfer rhai nad ydynt yn gyflogeion
- Cydlofnodwyr a Dilyswyr Hunaniaeth
- ADRAN 2: CYFRIFOLDEBAU'R RHEOLWYR
- Beth i'w wneud os datgelir euogfarn a allai effeithio ar addasrwydd rhywun ar gyfer y swydd
- Ymdrin â sefyllfa lle mae gennych bryderon diogelu
- Atgyfeirio i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac i Asiantaethau eraill
- Atodiad 1: Ffurflen sefydlu Cymhwystra'r DBS
- Atodiad 2 – Llythyr I'w Anfon at Gyflogeion Sy'n Cofrestru Gyda Gwasanaeth Diweddaru'r DBS
- Atodiad 3: Ffurflen Hunanddatgeliad
- Atodiad 4: Ffurflen Asesu Risg Datgeliad
- Atodiad 5: Cofnod o Atgyfeiriad diogelu
Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Mae’r DBS yn darparu cyfleuster er mwyn i sefydliadau wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel drwy gynnal gwiriadau yn erbyn gwahanol fathau o wybodaeth, fel cofnodion troseddol a'r heddlu, a gwybodaeth a ddelir ar y rhestr wahardd i blant ac oedolion.
Caniateir i gyflogwyr ofyn am wybodaeth am hanes unigolyn o dan Orchymyn Eithriadau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (fel y'i diwygiwyd) mewn rhai amgylchiadau, gan gynnwys lle bo cyflogeion yn gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir. Ni cheir ond gwneud cais am wiriadau os yw hynny'n berthnasol neu'n gymesur â'r rôl, neu os yw'n ofynnol yn ôl statud.
Mae’r Cyngor yn Gorff Cofrestredig gyda'r DBS ac mae tîm recriwtio'r Gwasanaethau Pobl yn darparu gwasanaeth i wneud cais i'r DBS am y gwiriad priodol, o fewn cwmpas y Polisi hwn. I'r perwyl hwnnw, mae'n rhaid i'r Cyngor gydymffurfio â Chod Ymarfer y DBS.
O dan y Cod Ymarfer hwn, mae’n rhaid i’r Cyngor, cyn cyflwyno cais am wiriad DBS, asesu'r rôl dan sylw i sicrhau ei fod yn gymwys o dan ddeddfwriaeth gyfredol, wedi'i cymhwyso gwiriad ar lefel briodol, ac wedi gwneud cais cywir am wybodaeth oddi ar y rhestr wahardd briodol.
Mae'r Cyngor yn ddarparwr gweithgaredd a reoleiddir. Mae hyn yn creu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, gan gynnwys dyletswydd gyfreithiol i gyfeirio unigolyn i sylw'r DBS os credir ei fod wedi achosi niwed i blant neu oedolion mewn perygl, neu fod risg iddo wneud hynny yn y dyfodol.
Mae cyflogwr yn torri'r gyfraith os yw'n fwriadol yn cyflogi rhywun i gyflawni gweithgaredd a reoleiddir gyda grŵp y mae wedi'i wahardd rhag gweithio gyda nhw. Mae unigolyn gwaharddedig yn torri'r gyfraith os yw'n ceisio neu'n cynnig cymryd rhan, neu'n cymryd rhan yn wirioneddol mewn gweithgaredd a reoleiddir gyda grŵp y mae wedi'i wahardd rhag gweithio gyda nhw.
