Geirdậu Cyflogaeth - Canllawiau Mawrth 2025

4. Rhoi Geirda Dros y Ffôn

Cyn cytuno i roi geirda dros y ffôn, cofiwch:

  • Nid oes y fath beth â thrafodaeth "heb gofnod" neu drafodaeth gyfrinachol. Dylech drin y drafodaeth yr un peth â phetaech yn rhoi geirda ysgrifenedig.
  • Cadwch at y wybodaeth y byddech yn ei rhoi mewn geirda ysgrifenedig (defnyddiwch y Templed fel eich rhestr wirio).
  • Ffoniwch y person sy'n gofyn am y geirda bob amser. Peidiwch â rhoi'r wybodaeth hyd nes eich bod yn fodlon bod rheswm dilys gan y person hwn dros ofyn am eirda.
  • Gwnewch nodyn o enw a theitl swydd y person rydych yn siarad ag ef, y corff mae'n ei gynrychioli, y rhif ffôn a chyfeiriad e-bost, dyddiad ac amser y sgwrs a'r rheswm mae wedi gofyn am eirda.
  • Gwnewch nodiadau o'r wybodaeth rydych yn ei rhoi.

Anfonwch gopi o'ch nodiadau i'r Tîm Recriwtio ar gyfer eu cofnodion.