Adrodd Eithriadau
Diweddarwyd y dudalen: 14/03/2025
Mae angen i swyddogion sy'n gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer Eithriadau a Hepgoriadau i'r Gofynion o ran Cystadlu o dan y Rheolau o ran Gweithdrefnau Contractau, (cymal 12) lenwi ffurflen ar-lein gan ddefnyddio'r Ffurflen ar gyfer Adroddiad ar Eithriadau Caffael ar y system.
Ar ôl ei llenwi bydd y ffurflen yn cael ei hanfon at Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i'w hystyried. Rydym wedi creu dogfen ganllaw i helpu i gwblhau cais am eithriad.