Cais am Fynegiant o Ddiddordeb
Diweddarwyd y dudalen: 18/10/2023
Mae Mynegiant o Ddiddordeb yn ofynnol i ofyn am unrhyw gymorth i gynnal ymarfer caffael sy'n fwy na £25k.
Mae'n rhoi cyfiawnhad dros y gofyniad a bydd yn ein helpu i flaenoriaethu (gyda chefnogaeth eich pennaeth gwasanaeth) y cymorth caffael sydd ei angen ar draws yr Awdurdod.
Bydd Mynegiannau o Ddiddordeb yn cael eu hadolygu'n wythnosol gan yr Uned Caffael Corfforaethol.
Pan fyddwn wedi adolygu eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i roi cyngor ar y camau nesaf ac i ymgysylltu'n llawn â'r swyddog arweiniol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o'r gofyniad ac asesu a oes capasiti i gwblhau'r gwaith gofynnol.
Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd y prosiect yn cael ei ychwanegu at Flaenraglen Waith yr Uned Caffael Corfforaethol i'w gyflawni.
A fyddech cystal â rhoi rhybudd ymlaen llaw am ymarferion caffael gan y bydd angen i'r Uned Caffael Corfforaethol ystyried y rhain yn y Flaenraglen Waith.
Er mwyn cynyddu ymhellach y siawns y bydd eich cais am Fynegiant o Ddiddordeb yn cael ei gymeradwyo, sicrhewch ei fod yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl.
Mwy ynghylch Caffael