Cyflenwyr Cymeradwy
Diweddarwyd y dudalen: 07/01/2025
Mae gennym nifer o gysylltiadau neu fframweithiau corfforaethol ac mae'r trefniadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith, fel rheol, ar gyfer nwyddau neu wasanaethau a ddefnyddir yn eang ledled y Cyngor. Maen nhw'n bodoli i'n galluogi i brynu eitemau'n effeithlon ac yn effeithiol ac i helpu i sicrhau cysondeb o ran ansawdd, sicrwydd o ran cyflenwad ac i arbed arian drwy arbedion maint. Mae'n rhaid ichi ddefnyddio'r trefniadau hyn os ydyn nhw'n diwallu eich anghenion.
- Mae'n rhaid cysylltu drwy'r Swyddog Arweiniol bob tro. Ni ddylai swyddogion gysylltu â chyflenwyr yn uniongyrchol o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio wrth wneud archebion yn uniongyrchol am Gyflenwadau Swyddfa a Nwyddau Traul TG, ac wrth ddilyn hynt yr archebion hynny.
- Cysylltwch â Swyddog Arweiniol y contract / fframwaith i gael cyfarwyddyd ynghylch archebu.
- Y Swyddog Arweiniol fydd yn gyfrifol am drefniadau'r contract ac am y materion prisio.
- Sicrhewch eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw broses sy'n benodol i'r adran, os oes angen
Os nad ydych yn sicr ynghylch pa gamau i'w cymryd, cysylltwch â thîm yr Uned Caffael Corfforaethol.
Mae'r rhestr hon yn cynnwys manylion am y rhan fwyaf o'r contractau corfforaethol sydd ar waith, ond nid yw'n cynnwys popeth. Cysylltwch â'r Uned Caffael Corfforaethol i gael gwybodaeth am gontractau eraill a allai ddiwallu eich gofynion.
Cyflenwr/wyr:
British Telecommunications (BT Group)
Swyddog Arweiniol:
Dyddiad dechrau: 01/10/2020 Dyddiad dod I ben: 30/09/2023
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 24
Mae contract corfforaethol wedi'i sefydlu.
Cysylltwch â Rob Young Rheolwr y Contract i gael rhagor o fanylion am sut i ddefnyddio'r trefniant.
Mae’r Cyngor wedi penodi cyflenwyr i ddarparu Deunyddiau Adeiladu, Deunyddiau Gwresogi a Phlymio, Deunyddiau Trydanol, Deunyddiau Sifil a Chynnyrch Cysylltiedig. Mae’r trefniant yma wedi ei rhannu ar draws 4 lot daearyddol.
Manylion y Lot
Lot 1 – Ffitiadau Trydanol, Ceblau, Goleadau ac Ategolion (Ledled Y Sir)
Cyflenwr: City Electrical Factors
Lot 2 – Cyflenwi Deunyddiau, Adeiladu, Plymio a Sifil (De - Llanelli)
Cyflenwr: Travis Perkins
Lot 3 – Cyflenwi Deunyddiau, Adeiladu, Plymio a Sifil (Gorllewin - Caerfyrddin)
Cyflenwr: Llandeilo Builders Merchants
Lot 4 – Cyflenwi Deunyddiau, Adeiladu, Plymio a Sifil (Dwyrain - Rhydaman / Dinefwr)
Cyflenwr: Llandeilo Builders Merchants
Am fwy o wybodaeth ynghylch y trefniant yma ac archebu oddi wrth y cyflenwyr, cysylltwch gyda Emyr Philips on 07880 504187
Swyddog Arweiniol: Emyr Philips
Dyddiad dechrau: 01/03/2022
Dyddiad dod i ben: 29/02/2024
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 36 (gyda’r opsiwn i ymestyn mewn cynyddrannau blynyddol o 12 mis dros gyfnod o 3 blynedd ychwanegol)
Fframwaith Gwaith Eiddo Sir Gaerfyrddin
Mae’r Fframwaith yma’n cefnogi y ddarpariaeth o waith yn gysylltiedig ag eiddo a gwaith cysylltiedig arall ledled Is-Adrannau Tai ac Eithrio Tai y Cyngor.
Manylion y Lotiau: Mae’r Fframwaith yn cynnwys 40 lot unigol sydd wedi eu selio ar ardaloedd a gwerth ac sy’n ymwneud â’r meysydd gwaith canlynol:
· Tai Gwaith Ymatebol a Gwaith Adeiladu Bach
· Gwaith Tai Cynlluniedig
· Gwaith Tai Gwag
· Addasiadau Ystafelloedd Golchi Tai
· Addasiadau Cyffredinol Tai
· Gwaith Gosod ac Atgyweirio Trydanol Tai
· Gwaith Cynnal Systemau PV (Solar) Tai
· Toi Domestig
· Lloriau Domestig
· Ffensys Domestig
· Gwaith Ymatebol Heblaw Tai
· Gwaith wedi’i Gynllunio Heblaw Tai
· Toi Masnachol (Eithrio Tai)
· Ffensys Masnachol (Eithrio Tai)
· Paentio ac Addurno Tai ac Eiddo Heblaw Tai
· Gosod Gwydr ar Dai ac Eiddo Heblaw Tai, Drysau a Ffenestri uPVC / Alwminiwm / Metel
· Clanhau, Clirio, Symud gan Gynnwys Clirio Gerddi Tai ac Eiddo Heblaw Tai
· Siediau Tai ac Eiddo Heblaw Tai
Am fwy o wybodaeth ynghylch y lotiau penodol, cysylltwch gyda’r Tîm Contractau a Chomisiynu Eiddo Tai (hsgpropertycontracts@sirgar.gov.uk).
Contractwyr:
Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda’r Tîm Contractau a Chomisiynu Eiddo Tai (hsgpropertycontracts@sirgar.gov.uk).
Swyddog Arweiniol:
Julian Lewis
Dyddiad dechrau: 01/11/2024 Dyddiad dod I ben: 31/10/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Mae'r Fframwaith hwn yn darparu gwasanaethau rheoli prosiect sy'n gysylltiedig ag eiddo a gwasanaethau llawn tîm dylunio gan ystod o ymgynghorwyr i'r Cyngor. Mae'r Fframwaith yn cynnwys y lotiau canlynol sy'n benodol i faes:
Lot 1 – Gwasanaethau Pensaernïol
Lot 2 – Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Gwaith Mecanyddol, Trydanol a Phlymio (MEP)
Lot 3 – Gwasanaethau Rheoli Prosiectau a Chost Ymgynghoriaeth
Lot 4 – Gwasanaethau Peirianneg Strwythurol sy'n Gysylltiedig ag Eiddo
Lot 5 – Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Ynni Isel
Lot 6 – Gwasanaethau Ymgynghoriaeth Cynllunio
Lot 7 – Gwasanaethau Aml-ddisgyblaeth
Ymgynghorwyr: I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghorwyr a benodir i bob lot a'r gweithdrefnau yn ôl y gofyn, cysylltwch â Helen Beddow.
Swyddog Arweiniol: Helen Beddow (Arweinydd y Tîm Fframweithiau a Chontractau)
Dyddiad dechrau: 23/10/2023
Dyddiad dod I ben: 22/10/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): Amherthnasol
Lot 1 - Dillad Gwaith Cyffredinol
Prif Gontractwr: Topperswales Ltd
Swyddogion Arweiniol: Nia Stoakes
Lot 2 - Gwisg Arlwyo a Domestig
Prif Gontractwr: Langstone Supplies Ltd
Swyddogion Arweiniol: Yvonne Cole / Jane Evans
Lot 3 - Gwisg Hamdden
Prif Gontractwr: SMI Group Ltd
Swyddogion Arweiniol: Richard Stradling
Lot 4 - Cyfarpar Diogelu Personol
Prif Gontractwr: PK Safety
Swyddogion Arweiniol: Nia Stoakes
Dyddiad dechrau: 01/09/2023
Dyddiad dod I ben: 31/08/2025
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 24
Cyflenwr/wyr:
Lyreco
Swyddog Arweiniol:
Nia Stoakes (Uwch Swyddog Cymorth Adrannol)
Dyddiad dechrau: 01/12/2022 Dyddiad dod I ben: 31/12/2024
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 24
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Eddie Cummings ar 01267 246180
Swyddog Arweiniol:
Ers mis Gorffennaf 2010, mae'r Awdurdod wedi gorfodi moratoriwm ar brynu unrhyw gelfi newydd i'r swyddfa. Os oes angen celfi, dylech gysylltu â Sonia Qualters-Jones yn gyntaf i gael gwybod am y celfi sy'n cael eu storio ar draws yr Awdurdod a allai ddiwallu eich anghenion.
Dylid defnyddio celfi sydd wedi'u storio, yn hytrach na phrynu celfi bob tro.
Bydd rhaid i unrhyw eitemau a brynir gyd-fynd â'r celfi a fydd yn cael eu darparu yn y dyfodol wrth i ni greu amgylchedd gweithio ystwyth yn unol â'r rhaglen gweithio ystwyth.
Ni chaniateir i chi brynu'r eitemau canlynol gan fod nifer fawr ohonynt mewn stoc, neu gan nad ydynt yn addas i'r cysyniad o weithio ystwyth.
- Cypyrddau pedestal (Darperir loceri wrth i ystafelloedd timau ystwyth gael eu sefydlu).
- Silffoedd llyfrau
- Cabinetau ffeilio
- Cypyrddau metel
- Rhanwyr desgiau neu sgriniau sy'n sefyll ar eu traed eu hunain
Bydd unrhyw wariant ar gelfi swyddfa yn cael ei fonitro'n fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â Stephanie Howells yn yr Uned Caffael Corfforaethol.
Cyflenwr/wyr:
Centerprise International
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Matthew Jenkins ar 01267 246333 neu'r Tîm Caffael TG ar 01267 246299
Cyflenwr/wyr:
Stone Computers (www.stonegroup.co.uk)
Ar gyfer Perifferolion TGCh, mae gan bob BSU Adrannol fynediad i'r porth archebu a'r tîm Rheoli Cyfrifon yn Sir Gaerfyrddin a byddant yn gallu prosesu'r gorchmynion hyn i'w danfon yn uniongyrchol i'ch cyfeiriad busnes.
Cyflenwr/wyr:
EE
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Matthew Jenkins ar 01267 246333
Swyddog Arweiniol:
Manylion y Lot:
Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi dyfarnu’r Contract Cyflenwadau Swyddfa a Deunyddiau Ysgrifennu i Lyreco.
Dylech nodi y cytunwyd ar gontract 4 blynedd gyda Lyreco, hyd at fis Mehefin 2026.
Mae'r prisiau ar gyfer 2023 hefyd wedi'u cwblhau erbyn hyn. Gweler isod gopi o'r rhestr brisiau ddiweddaraf a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2023.
Mae'r eitemau a gynhwysir yn y rhestr brisiau oll yn Eitemau Craidd.
Mae'r Awdurdod wedi cytuno i weithredu gwerth archeb isafswm o £10 gan fod y fenter arfer gorau hon yn cefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a mentrau datgarboneiddio.
Mae Lyreco wedi trefnu i ni gael mynediad i borth ei siop ar-lein. Bydd hyn yn caniatáu i chi weld gwybodaeth gyfredol am gynnyrch ac i wirio'r stoc sydd ar gael cyn cyflwyno eich archeb.
Bydd angen ichi ddefnyddio'r manylion mewngofnodi canlynol i fynd i'r siop ar-lein:
- Mewngofnodi: VIEW-ONLY
- Cyfrinair: CARMARTHEN
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso ichi gysylltu â mi - Chris Davies (Uwch-swyddog Caffael) neu fel arall gallwch gysylltu â Milena Thomas (Rheolwr y Cyfrif yn Lyreco) drwy ffonio 07970 649175 / Gwasanaethau Cwsmeriaid 0845 075 5544.
Lawrlwytho:
Rhestr Brisiau Lyreco o 1af Mehefin 2023
Cyflenwr/wyr:
Lyreco
Swyddog Arweiniol:
Am fwy o wybodaeth ynghylch y Fframwaith yma a’r cyflenwyr, cysylltwch gyda Huw Parsons ar 07733 102318.
Swyddog Arweiniol:
Cyflenwr/wyr:
Konica Minolta Business Solutions (UK) Ltd
Am fwy o wybodaeth ynghylch y cyflenwyr, cysylltwch gyda Matthew Jenkins ar 01267 246333
Swyddog Arweiniol:
Mae’r Cyngor penodi contractwyr i ddarparu gwasanaethau gwaredu carthion, wasanaethau cysylltiedig â charthffosiaeth a gwaith adfer cysylltiedig sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni a gweithredu ei asedau Cynnal a Chadw Eiddo, Priffyrdd ac Amddiffyn Llifogydd. Mae’r trefniant wedi cael ei rannu’n 3 Lot.
Manylion Lot
Lot 1 – Gwasanaeth Tanceru Cylchol
Lot 2 – Gwaith Ymateb Brys ac Argyfwng
Lot 3 – Gwaith wedi’i gynllunio
Am fwy o wybodaeth ynghylch y trefniant yma, y contractwyr a benodwyd a’r gweithdrefnau ar gyfer galw i ffwrdd er mwyn dyfarnu gwaith, cysylltwch gyda Emyr Philips ar 07880 504187.
Swyddog Arweiniol: Emyr Philips
Dyddiad dechrau: 06/11/2023
Dyddiad dod i ben: 05/11/2026
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Sefydlwyd y fframwaith rhanbarthol yma gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Powys a Chyngor Abertawe, ar gyfer gwasanaethau ymgynghori peirianneg sifil ar draws y rhanbarth.
Ymgynghorwyr: Am fwy o wybodaeth ynghylch yr ymgynghorwyr a benodwyd a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda Adrian Harries neu Robert M Evans.
Swyddog Arweiniol:
Adrian Harries (Rheolwr Gwasanaethau Dylunio Proffesiynol)
Dyddiad dechrau: 01/04/2021
Dyddiad dod I ben: 31/03/2024
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Sefydlwyd y fframwaith rhanbarthol yma gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, er mwyn cynorthwyo i gyflawni prosiectau adeiladu peirianneg sifil ar draws y rhanbarth. Mae’r Fframwaith yn cynnwys lotiau sir-benodol a rhanbarthol ar gyfer gwaith peirianneg sifil, ynghyd â lotiau ar gyfer gwaith sifil arbenigol.
Manylion y Lotiau: Y lotiau sydd ar gael i’w defnyddio gan swyddogion Sir Gaerfyrddin yw:
- Lot 1B Gwasanaethau Adnodd Peirianneg Sifil Bach Iawn yn Sir Gaerfyrddin (hyd at £50k)
- Lot 2B Gwaith Peirianneg Sifil yn Sir Gaerfyrddin (hyd at £400k)
- Lot 3 Gwaith Peirianneg Sifil (£400k- £2m)
- Lot 4 Gwaith Peirianneg Sifil (£2m+)
- Lot 5 Dymchwel
- Lot 6 Goleuadau Cyhoeddus
- Lot 7 Gosod Llinellau a Marciau Ffordd
- Lot 8 Gosod Arwyneb Ffyrdd
- Lot 9 Ymchwiliad Tir
- Lot 10 Gwaith Morol (ac eithrio’r Arfordir)
- Lot 11 Rheoli Traffig
Datblygiad allweddol i iteriad yma o’r Fframwaith yw cynnwys lotiau sir-benodol ar gyfer Gwasanaethau Adnodd Peirianneg Sifil Bach Iawn (Lot 1B i Sir Gaerfyrddin) gyda gwerth hyd at £50,000, er mwyn ategu at weithluoedd llafur uniongyrchol mewnol y Cynghorau rhanbarthol. Mae’r gwasanaethau yma’n cynnwys ond heb eu cyfyngu at:
- Gwaith sifil cyffredinol
- Cloddwaith / Gweithredwyr peiriannau
- Clirio cyffredinol ar safleoedd
- Ffensio
- Draenio
- Gosod brics
- Gwaith llif gadwyn
- Gwaith maen
- Asio / Gwaith metal
- Gosod cwrbin
- Paentio pontydd
- Atgyweirio concrit
- Estyllu
- Gwaith gosod dur
- Gwaith ymateb i argyfwng
Contractwyr: Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr penodedig ym mhob lot a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda Adrian Harries neu Alwyn B Williams.
Swyddog Arweiniol: Adrian Harries (Rheolwr Gwasanaethau Dylunio Proffesiynol)
Dyddiad cychwyn: 06/02/2023
Dyddiad dod i ben: 05/02/2026
Cyfnod Estyniad Posibl (Misoedd): 12
Sefydlwyd y fframwaith rhanbarthol yma gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, er mwyn cynorthwyo i gyflawni prosiectau adeiladu ar draws y rhanbarth.
Manylion y Lotiau: Y lotiau sydd ar gael i’w defnyddio gan swyddogion Sir Gaerfyrddin yw:
- 1A Gorllewin (£0 - £1,000,000)
- 2A Gorllewin (£1,000,000 - £2,000,000)
- 3A Gorllewin (£2,000,000 - £4,000,000)
- 4A Gorllewin (£4,000,000 - £7,000,000)
- 5 Rhanbarthol (£7,000,000 - £15,000,000)
- 6 Rhanbarthol (£15,000,000 - £25,000,000)
- 7 Rhanbarthol (£25,000,000+)
- 8 Tai Rhanbarthol (£0 - £5,000,000)
- 9 Tai Rhanbarthol (£5,000,000+)
Contractwyr: Am fwy o wybodaeth ynghylch y contractwyr a’r trefniadau dyfarnu contract yn ôl y gofyn, cysylltwch gyda Helen Beddow (hfbeddow@sirgar.gov.uk).
.
Swyddog Arweiniol:
Dyddiad dechrau: 05/11/2024
Dyddiad dod I ben: 04/11/2027
Cyfnod Ymestyn Posibl (Misoedd): 12
Mwy ynghylch Caffael