Pa wybodaeth fydd angen i chi ei rhannu gyda'r tîm Caffael?

Unrhyw gontractau gwerth dros £2m sydd ar ddod yn y 18 mis nesaf – Rhaid rhoi Hysbysiad Piblinell gan yr Uned Caffael Corfforaethol o fewn 56 diwrnod o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol berthnasol. (26 Mai 2025)

POB contract yr ymrwymo iddo sydd â gwerth o fwy na £30,000 – Rhaid i'r Uned Caffael Corfforaethol gyhoeddi Hysbysiad Manylion y Contract ar GwerthwchiGymru.

Os ydych yn dyfarnu trefniant yn ôl y gofyn sy'n uwch na'r trothwy o gytundeb fframwaith – Rhaid i'r Uned Caffael Corfforaethol gyhoeddi Hysbysiad Manylion y Contract ar GwerthwchiGymru.

Os ydych yn newid unrhyw Gontract cyn diwedd y tymor – Rhaid i'r Uned Caffael Corfforaethol gyhoeddi Hysbysiad Manylion y Contract ar GwerthwchiGymru CYN gwneud newidiadau.

A wnaed unrhyw ymgysylltu cyn y farchnad? – Rhaid i Hysbysiad Ymgysylltu Cychwynnol â'r Farchnad nodi y byddwch yn bwriadu (neu eich bod eisoes wedi) ymgysylltu â'r farchnad.

Pan ddaw Contract i ben yn naturiol – Rhaid i'r Uned Caffael Corfforaethol gyhoeddi Hysbysiad Terfynu Contract ar GwerthwchiGymru o fewn 30 diwrnod o'i derfynu.

Os ydych wedi rhoi Dyfarniad Uniongyrchol / os oes gennych eithriad wedi'i gymeradwyo o dros £30,000 – Rhaid i'r Uned Caffael Corfforaethol gyhoeddi Hysbysiad Tryloywder ar GwerthwchiGymru CYN dyfarnu'r contract.


Os bydd cyflenwr yn torri contract, rhaid i ni gyhoeddi Hysbysiad Perfformiad Contract.


Contractau gwerth dros £5m - Rhaid cyhoeddi o leiaf 3 dangosydd perfformiad allweddol yn yr Hysbysiad Contract.

  • Rhaid wedyn cyhoeddi asesiad o berfformiad y cyflenwr yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol hynny o leiaf unwaith bob deuddeg mis ac eto ar ddiwedd contract.

 

O 1 Ionawr 2024 y trothwyon caffael cyhoeddus (gan gynnwys TAW) yw:-

  • Nwyddau a Gwasanaethau – £214,904 
  • Contractau Gwaith – £5,372,609
  • Trefn Lai Manwl (gofal cymdeithasol) – £663,540