MODIWLAU E-DDYSGU - CAFFAEL

Diweddarwyd y dudalen: 22/11/2024

Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu hyfforddiant i staff, mae'r Adran Gaffael wedi nodi 3 modiwl e-ddysgu allweddol y mae angen i weithwyr eu cwblhau.

Mae'n bwysig felly i chi gwblhau'r modiwlau hyn i wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau er mwyn cynyddu eich ymwybyddiaeth o'r materion dan sylw.

1. Cyflwyniad i Gaffael (ar gyfer holl Reolwyr Cyllidebau)

2. Cod Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol (ar gyfer pob gweithiwr)

3. Rheoli Contract (Mae disgwyl i bob swyddog sy'n gyfrifol am reoli contractau gyda chyflenwyr gwblhau'r Modiwl e-ddysgu)

 

Mewngofnodwch i:

System Rheoli Dysgu Thinqi

Cliciwch ar "Llyfrgell".
Cliciwch ar "Polisïau a Gweithdrefnau".
Cliciwch ar "Rheoli Contractau" neu "Cyflwyniad i Gaffael".


Sylwch y bydd "Côd Ymarfer: Cyflogaeth Foesegol" ar gael yn fuan.