Meddyliwch Sir Gâr Gyntaf

Diweddarwyd y dudalen: 18/10/2024

Ar gyfer pryniannau o dan £25,000 gofynnir swyddogion i ‘Meddyliwch Sir Gâr Gyntaf!’ wrth geisio dyfyniadau ar gyfer prynu Nwyddau/Gwasanaethau nad ydynt yn dod o dan y trefniadau a grybwyllir uchod. Felly, archwiliwch y farchnad i weld a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth yr ydych yn ceisio eu prynu a'u cynnwys yn eich gwahoddiadau i ddyfynnu.

Mae defnyddio cyflenwyr lleol yn cynnig nifer o fanteision i'r Awdurdod ac i'r gymuned ehangach. Dyma rai manteision allweddol:

1. Manteision Economaidd

  • Creu a Chadw Swyddi: Drwy gontractio gyda chyflenwyr lleol, gallwn gefnogi creu a chadw swyddi o fewn y gymuned. Mae hyn yn helpu i leihau diweithdra a gall arwain at economi leol fwy sefydlog.
  • Effaith Lluosydd Economaidd: Mae'r arian sy'n cael ei wario'n lleol yn tueddu i gylchredeg o fewn y gymuned sawl gwaith. Mae cyflenwyr lleol yn fwy tebygol o wario eu henillion ar wasanaethau a busnesau lleol, gan roi hwb pellach i'r economi leol.
  • Cefnogaeth i Fusnesau Bach: Yn aml, mae cyflenwyr lleol yn fentrau bach neu ganolig. Mae cefnogi'r busnesau hyn yn helpu i gynnal marchnad amrywiol a chystadleuol a all arwain at arloesi a gwasanaethau mwy personol.

2. Manteision i'r Amgylchedd

  • Ôl Troed Carbon Llai: Mae cyflenwyr lleol yn agosach yn ddaearyddol, sy'n lleihau pellteroedd cludo. Mae hyn yn arwain at ôl troed carbon llai ar gyfer ein gweithgareddau caffael.

3. Manteision Cymdeithasol

  • Ymgysylltu Cymunedol: Mae defnyddio cyflenwyr lleol yn meithrin cysylltiadau cryfach rhwng yr Awdurdod a'r gymuned. Yn aml, mae'r cyflenwyr yn drigolion sydd â diddordeb personol yn llesiant y gymuned, sy’n arwain at lefelau uwch o ymddiriedaeth a chydweithio.
  • Gwerth Cymdeithasol: Mae cyflenwyr lleol yn debygol o gyfrannu at fentrau cymdeithasol, fel darparu prentisiaethau, cefnogi elusennau lleol neu gymryd rhan mewn prosiectau datblygu cymunedol. Mae hyn yn ychwanegu gwerth cymdeithasol y tu hwnt i'r nwyddau neu'r gwasanaethau uniongyrchol a ddarperir.
  • Balchder mewn Gwasanaethau Lleol: Efallai y bydd y gymuned yn teimlo mwy o falchder a pherchenogaeth ar wasanaethau a seilwaith sy'n cael eu cefnogi neu eu hadeiladu gan gwmnïau lleol.

4. Gwell Darpariaeth Gwasanaethau

  • Amserau Ymateb Cyflymach: Yn aml, gall cyflenwyr lleol ymateb yn gyflymach i'n hanghenion oherwydd eu bod yn agos. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol mewn argyfwng neu pan fydd angen gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio ar frys.