Cefnogi achosion

Diweddarwyd y dudalen: 06/10/2023

Hoffem glywed beth rydych chi’n ei wneud i gefnogi elusen neu achos sy'n agos at eich calon.

Os ydych yn codi arian rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at marchnatacyfryngau@sirgar.gov.uk

Taith Mighty Hike Penrhyn Gŵyr The Legal Lovelies 2024

Enw: Taith Mighty Hike Penrhyn Gŵyr The Legal Lovelies 2024

Adran: Y Prif Weithredwr

Elusen: Mighty Hike Elusen MacMillan

Beth: Mighty Hike Penrhyn Gŵyr 2024 - hanner marathon

Pryd: 6 Gorffennaf, 2024

Pam: Cofrestrodd sawl aelod o'r tîm Gofal Plant yn y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer y Daith Mighty Hike ar hyd y Gŵyr. Byddai unrhyw roddion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma

 

Rosie Carmichael - Motoron Cymru

Enw: Rosie Carmichael

Adran: Lle a Seilwaith

Elusen: Motoron Cymru. 

Beth: Taith feicio o Gas-gwent i Fangor

Pryd: 18 – 21 Mehefin

Pam: Byddaf yn ymddeol o CSC cyn bo hir, ac i nodi hyn rwy'n ymuno â ffrindiau i feicio o Gas-gwent i Fangor. Rwy'n gwneud hyn i gefnogi Motoron Cymru, elusen a gafodd ei datblygu yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n gweithio'n agos gyda Sefydliad My Name'5 Doddie yn yr Alban, sy'n ariannu ymchwil ac yn codi ymwybyddiaeth o Glefyd Niwronau Motor, gan helpu unrhyw un y mae'r clefyd yn effeithio arno. Amcangyfrifir y bydd 1 o bob 300 o bobl yn cael diagnosis o Glefyd Niwronau Motor, felly rydych yn debygol iawn o adnabod neu gwrdd â rhywun sydd â'r clefyd, neu y mae'r clefyd yn effeithio arno. Gallwch gael mwy o wybodaeth am Glefyd Niwronau Motor a Motoron Cymru yma: https://motoron.cymru

Os hoffech gyfrannu, galllwch wneud hynny yma

Tîm Wendy - Rheoli Pobl - Adain Polisi

Enw: Tîm Wendy

Adran: Rheoli Pobl - Adain Polisi

Elusen: Ymchwil Canser 

Beth: Ras am Oes 5k/10k - cerdded neu redeg

Pryd: Dydd Sul, 2 Mehefin 2024.

Pam: Mae'r clefyd hwn yn effeithio ar bawb yn ystod eu hoes mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Yn 2021 collon ni gydweithiwr annwyl iawn mewn cyfnod byr o amser i'r clefyd hwn, roedd Eva yn ddynes hyfryd ac fe’i collwyd llawer yn rhy gynnar.

Tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf, cafodd ein cydweithiwr, Wendy Phillips, ddiagnosis o ganser y fron ac ar hyn o bryd mae'n parhau i weithio wrth iddi fynd drwy'r driniaeth anodd hon. Mae Wendy yn fenyw ryfeddol ac yn ysbrydoliaeth i ni gyd, mae ganddi agwedd mor gadarnhaol wrth iddi fynd drwy'r holl broses. Rydym i gyd rhyfeddu at ei chryfder a'i phenderfyniad i guro'r clefyd creulon hwn.

Fel tîm, rydym yn gobeithio codi cymaint o arian ag y gallwn i helpu Ymchwil Canser i ddod o hyd i ragor o driniaethau i alluogi pobl i oroesi'r clefyd creulon hwn.  A fyddech cystal â chyfrannu er cof am Eva ac i ddathlu Wendy.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma

Carys Attwell - codi arian ar gyfer Abi Mcnamara

Enw: Carys Attwell
Adran: Lle a Seilwaith
Elusen: Codi arian ar gyfer Abi Mcnamara
Beth: Cefnogi fy ffrind annwyl o'r ysgol, Abi, yn ei brwydr yn erbyn canser
Pryd: Yn parhau
Pam: Mae'n dechrau 2 flynedd o chemotherapi lliniarol ac imiwnotherapi - sy'n ceisio rheoli ei chlefyd nid ei wella. Mae'r triniaethau rydym yn gobeithio y bydd Abi yn eu treialu yn costio degau ar filoedd o bunnoedd, a dyna pam rydym yn gofyn am help. Does dim ots pa mor fach yw'r rhodd; gallaf eich sicrhau y bydd yn cael ei chroesawu.

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny yma

Julian Lewis-Uned Gofal y Fron yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli

Enw: Julian Lewis

Adran: Cymunedau

Elusen: Uned Gofal y Fron yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli

Beth: Marathon Ultra di-stop 100 cilomedr (62.5 milltir) o'r enw 'Race to the King'

Pryd: Dydd Sadwrn, 15 Mehefin

Pam: Mae aelod o'r teulu a chydweithwyr yn y gwaith yn brwydro canser y fron ar hyn o bryd, ac mae pob menyw wedi cael triniaeth wych gan Uned Gofal y Fron. Bydd rhywfaint o'r arian a godir yn cael ei ddefnyddio i helpu i gefnogi menywod sydd dan anfantais ariannol fawr oherwydd eu diagnosis, yn enwedig wrth iddynt aros am grantiau o ffynonellau eraill fel y prif elusennau fel Macmillan.

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth ac yn eich sicrhau y bydd 100% (140% weithiau os gallwn gael y TAW a chymorth rhodd yn ôl) o'ch arian yn cael ei wario'n dda yn cefnogi Uned Gofal y Fron a menywod (a hefyd ychydig o ddynion) ein hardal sy'n ddigon anffodus i fod angen triniaeth ar gyfer clefyd y fron.

>I roi, ewch i www.justgiving.com a rhowch y geiriau 'Peony BCU' yn y maes chwilio.