Communities
Diweddarwyd y dudalen: 10/05/2023
Digwyddiad i Ddathlu'r Hyn a Gyflawnwyd ym maes Iechyd a Llesiant yr Adran Cymunedau
Cafodd digwyddiad ei gynnal ar 11 Hydref yn y Crochan, y Ffwrnes, Llanelli yn cydnabod gweithwyr sy'n gwneud gwahaniaeth wrth gyfrannu at eu hiechyd a'u llesiant nhw eu hunain ynghyd ag eraill yn y gwaith. Roedd Tîm Rheoli Adrannol yr Adran Cymunedau am ddangos eu gwerthfawrogiad i staff sy'n frwd, yn ymrwymedig, ac sy'n gallu cymell ac ysbrydoli eraill wrth greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, gan ddarparu gwasanaethau arbennig a sicrhau ein bod yn byw ac yn gweithio'n dda yn Sir Gaerfyrddin.
Adran Cymunedau
Mae'r Adran yn cynnwys saith Is-adran:
- Hamdden
- Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a Diogelu
- Gwasanaethau Integredig
- Comisiynu ar y Cyd
- Cymorth Busnes
- Y Tîm Perfformiad, Dadansoddi a Systemau
Digwyddiad ymgysylltu â staff
Cynhaliodd y Cyfarwyddwr Cymunedau ei ail ddigwyddiad Ymgysylltu â Staff ar 4 Ebrill 2019 ym Mharc y Scarlets, Llanelli. Roedd yn gyfle i staff rheng flaen ddod at ei gilydd a chwrdd â Thîm Rheoli'r Adran a chwrdd â staff eraill o wahanol adrannau. Y thema i'r digwyddiad oedd Llesiant staff. Mynychodd Mark Hodder arbenigwr seicoleg gadarnhaol a rhoddodd sgwrs a gynlluniwyd i ysbrydoli, ymgysylltu ac ysgogi ein staff.
Sgôr i'r is-adran fel cyflogwr
Mae gan yr Adran Cymunedau ddiddordeb ym marn ein staff. Ym mis Tachwedd 2017 a mis Tachwedd 2018 gofynnwyd i'n staff i rhoi eu barn am yr is adran fel cyflogwr i'n helpu i ddeall eu profiad o weithio yn yr Adran. Roedd yn ofynnol i staff ateb un cwestiwn trwy ddewis nifer o sêr, 1 seren = Ddim yn debygol o gwbl, 10 seren = Eithaf tebygol
Gofynnwyd i'r staff: "Pa mor debygol y byddech chi o argymell eich Is-adran fel cyflogwr i rywun yr ydych chi'n ei adnabod?"
Safonau Gofal Cwsmeriaid
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r safonau ar gyfer staff yn yr Adran Cymunedau yn eu hymwneud â chwsmeriaid allanol a mewnol, p'un ai dros y ffôn, trwy e-bost, gohebiaeth, cyswllt wyneb yn wyneb neu adborth ar y wefan. Mae'r safonau hyn yn bwysig wrth i ni symud tuag at weithio ystwyth.