Llythrennedd Carbon i Aelodau Etholedig (1)
- Dydd Iau 14 Gorffenaf, 9.00am – 4.30pm
- Zoom (15 aelod fesul sesiwn)
- Contributors: Fiona Sutton-Wilson (Pennaeth Hyfforddiant y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE))
Bydd yr hyfforddiant hanfodol hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i Aelodau Etholedig i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Dyma fater pwysicaf ein cyfnod ni. Bydd y penderfyniadau a wneir yn awr yn effeithio ar genedlaethau'r dyfodol. Fel aelodau cabinet neu bwyllgor, fel cynghorwyr ward, gwneuthurwyr penderfyniadau a chynrychiolwyr, mae gennych rôl bwysig i'w chwarae wrth lywio cyfeiriad eich awdurdod. Bydd eich dylanwad yn llywio'r ffyrdd y mae partneriaid, preswylwyr ac ymwelwyr yn meddwl am agenda'r hinsawdd ac yn ymagweddu tuag ati a bydd y cwrs hwn yn eich helpu i lywio'r cyfleoedd a siarad, yn hyderus, am wyddoniaeth, polisïau, cyfleoedd a manteision gweithredu er lles yr hinsawdd.
Erbyn diwedd y sesiwn hon, byddwch wedi:
- Dod i ddeall gwyddoniaeth sylfaenol newid yn yr hinsawdd a sut y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom ni yn fyd-eang ac yn lleol.
- Dod i ddeall sut y gallwch chi, fel aelod etholedig, ysgogi newid.
- Archwilio'r amcanion carbon isel yn y Sector Awdurdodau Lleol.
- Creu cynllun gweithredu i helpu i leihau ôl troed carbon eich Awdurdod Lleol.
- Archwilio Strategaethau ar gyfer dylanwadu ar eraill i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
