Rhianta Corfforaethol, Diogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed
- Dydd Mawrth 12 Gorffenaf, 1.30pm – 4.45pm
- Contributors: Rebecca Copp (Rheolwr y Gwasanaeth Rhianta Corfforaethol a Lles Plant), Cathy Richards (Uwch-reolwr Diogelu)
Rhianta Corfforaethol a Diogelu Plant
CEgluro canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynghorwyr ynglŷn â sut i fod yn Rhiant Corfforaethol da.
Amcanion:
- Diogelu plant a'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol: CYSUR
- Arwyddion a symptomau cam-drin a gwneud atgyfeiriad
- Bod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau rhianta corfforaethol
- Ymgyfarwyddo â Strategaeth Rhianta Corfforaethol Sir Gaerfyrddin
- Rhoi trosolwg o berfformiad y Cyngor a'r heriau ar ei gyfer yn y maes hwn
- Deall rôl y Panel Rhianta Corfforaethol
- Rhoi syniad o nifer y plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal
- Sicrhau bod y Cynghorwyr yn gyfarwydd â'r rolau a'r dyletswyddau penodol
Diogelu oedolion agored i niwed
Amcanion:
- Diogelu
- Gallu adnabod mathau o gam-drin ac arwyddion a symptomau cam-drin
- Bod yn hyderus i weithredu ar sail pryderon, amheuon ac arsylwadau ynghylch cam-drin ac arferion anniogel
- Deall pwy sydd mewn perygl
- Archwilio'r polisi a'r gweithdrefnau Diogelu
- Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
