Hyfforddiant Craffu Aelodau'r Cabinet

  • Dydd Gwener 17 Mehefin, 10.30am - 11.30am
  • Zoom
  • Contributors: Lisa Smart (Y Ganolfan Lywodraethu a Chraffu)

Helpu Aelodau'r Cabinet i ddatblygu a chynnal perthynas adeiladol â chraffu a sut i sicrhau bod manteision craffu'n cael eu cyflawni drwy gyd-ddealltwriaeth a chydweithredu ac ymddiriedaeth.

Amcanion:

  • Deall rôl craffu fel swyddogaeth graidd ar draws y Cyngor cyfan;
  • Sut y mae craffu'n ychwanegu gwerth wrth gefnogi perfformiad y Cyngor;
  • Datblygu perthynas gadarnhaol rhwng craffu a'r Cabinet;
  • Craffu fel cyfaill beirniadol. Manteision cadarnhaol herio a phrofi;
  • Sut y mae craffu'n helpu Aelodau'r Cabinet i ddatblygu eu polisi a'u penderfyniadau allweddol;
  • Cael y budd mwyaf posibl o graffu i Aelodau'r Cabinet;
  • Cynghori'r rhaglen waith graffu;
  • Pwysigrwydd atebolrwydd democrataidd gweladwy;
  • Ymdrin â 'gwleidyddiaeth', ymddygiadau a heriau craffu;
  • Strategaethau effeithiol i gynllunio ar gyfer cyfarfodydd craffu;
  • Cymorth gan swyddogion i'r Cabinet mewn cyfarfodydd craffu;
  • Rhannu gwybodaeth a chraffu mewn sesiynau briffio;
  • Wynebu craffu – cwestiynau – adborth – bod yn agored a risgiau.