Rôl Craffu a sut i fod yn aelod craffu effeithiol

  • Dydd Iau 9 Mehefin, 10.00am - 12.00pm
  • Zoom
  • Contributors: Lisa Smart (Y Ganolfan Lywodraethu a Chraffu )

Mae arolygu a chraffu yn chwarae rôl hanfodol wrth lunio polisïau, dal y gwneuthurwyr penderfyniadau gweithredol i gyfrif ac adolygu materion sydd o bwys i gymunedau lleol. I gyflawni'r swyddogaeth graffu mae angen i'r Aelodau ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o rôl a gallu'r swyddogaeth hon; bod yn gryf o ran blaenoriaethu, rhaglennu gwaith ac ansawdd gweithgareddau craffu wrth fesur effaith.

Amcanion:

Rhoi dealltwriaeth glir i'r aelodau o'u rôl ym maes craffu:

  • Y canllawiau diweddaraf ac arferion da;
  • Cynorthwyo aelodau i gynyddu eu dealltwriaeth a'u profiad fel ymarferwyr craffu effeithiol a hyderus;
  • Helpu i wella sgiliau aelodau unigol yn egwyddorion sylfaenol craffu;
  • Rhoi gwell dealltwriaeth i aelodau craffu o rôl ac effaith bosibl craffu;
  • Dylanwadau craffu a sut i'w defnyddio;
  • Pwysigrwydd perthnasoedd, ymddygiadau a chyfathrebu (agweddau diwylliannol);
  • Deall sut y gall craffu gael effaith sylweddol ar gefnogi perfformiad;
  • Archwilio sut y gall craffu ychwanegu gwerth at bolisi ac ymarfer yn y dyfodol.