Sgiliau Cyfweld a Phenodi i Bwyllgorau Penodiadau
- Dydd Iau 30 June, 10.00am - 12.00pm
- Zoom
- Contributors: Hayley Daniels, Sian Woodruff (Datblygu Trefniadaeth)
ASesiwn ymwybyddiaeth gyda'r bwriad o hyrwyddo dealltwriaeth o'r broses o recriwtio'r bobl iawn, yn y mannau iawn, ar yr adeg iawn. Bydd yr Aelodau yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad a'u sgiliau eu hunain yn y maes hwn, gan ystyried a allent ychwanegu gwerth at banel penodi a gwneud penderfyniadau recriwtio teg ac effeithiol.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
- Trosolwg o broses canolfan asesu Cyngor Sir Caerfyrddin;
- Eich rôl fel aelod posibl o'r panel penodi;
- Sgiliau allweddol ac ymddygiadau aelod effeithiol o'r panel penodi;
- Fframwaith cymhwysedd Arweinyddiaeth Sir Gaerfyrddin a'i ddull mesur.
