Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio

  • Dydd Gwener 27 Mai, 9.00am - 12.30pm
  • Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Contributors: Rhodri Griffiths (Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd), Ian Llewelyn (Rheolwr Blaen-gynllunio), Hugh Towns (Swyddog Rheoli Datblygu, Gorfodi a Rheolwr Mwynau a Gwastraff Rhanbarthol), Steve Pound (Pen-syrfëwr Rheoli Adeiladu), Rosie Carmichael (Rheolwr Cadwraeth Wledig), Steve Murphy (Uwch-gyfreithiwr)

Amcanion:

Yng nghyd-destun cylch gorchwyl y Pwyllgor Cynllunio, galluogi Cynghorwyr ar y pwyllgorau hyn i gael dealltwriaeth o'r canlynol

  • Cyflwyniad i'r system gynllunio ar gyfer Cynghorwyr: Cynllunio Cadarnhaol a'r broses ddeddfwriaethol ;
  • Cefndir y Cynllun Datblygu: Polisi Cenedlaethol a'r Cynllun Datblygu Lleol;
  • Esbonio'r broses o wneud penderfyniadau a rôl Cynghorwyr yn y broses honno;
  • Cytundebau Adran 106 a chyfraniadau datblygwr;
  • Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr mewn Materion Cynllunio a'r Protocol ynghylch Sylwadau i'r Cyngor Sir ar Geisiadau Cynllunio;
  • Posibiliadau a chyfyngiadau Cytundebau Cynllunio ac amodau;
  • Gorfodi: trosolwg i Gynghorwyr;
  • Datganiad Gorfodi;
  • Ardaloedd Cadwraeth ac Adeiladau Rhestredig – egluro'r ystyriaethau ychwanegol;
  • Budd net bioamrywiaeth;
  • Cynllunio Mwynau a Gwastraff;
  • Rheoli adeiladu a strwythurau peryglus