Côd Ymddygiad, Moeseg, Safonau, Cyfrifoldebau a Dyletswyddau Cyfreithiol
- Dydd Mawrth 17 May, 10am – 12 canol dydd
- Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
- Contributors: Linda Rees Jones (Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith), Robert Edgecombe (Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol)
Amcanion:
- Rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth i Gynghorwyr o'r fframwaith statudol a moesegol y mae'n ofynnol iddynt weithredu oddi mewn iddo wrth wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar deilyngdod a budd y cyhoedd yn unig.
Yn benodol, gwybodaeth a dealltwriaeth yn y meysydd canlynol:
- Y cefndir moesegol a statudol;
- Y côd ymddygiad lleol newydd;
- Darpariaethau cyffredinol y côd;
- Buddiannau personol a rhagfarnol;
- Datganiadau a gollyngiadau;
- Rolau cyngor a gorfodi;
- Torri'r côd - canlyniadau posibl.
