Cyllid Llywodraeth Leol gan gynnwys rheoli'r trysorlys a chyllidebau

  • Dydd Iau 26 Mai, 9.30am – 4.30pm
  • Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Contributors: Chris Moore (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol), Helen Pugh (Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol), Randal Hemingway (Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol)

Amcanion:

  • Rhoi trosolwg o gyllid llywodraeth leol – O ble mae'n dod?  Ar beth mae'n cael ei wario? A phwy sy'n gyfrifol amdano?
  • Rhoi trosolwg o'r cefndir statudol a'r fframwaith rheoleiddio ar gyfer llywodraethu cyllid;
  • Rhoi cyflwyniad i gyllid llywodraeth leol fel allwedd i ddeall ei rôl ganolog wrth lunio polisïau ac wrth graffu;
  • Rhoi trosolwg o'r termau a ddefnyddir yn gyffredin ym maes cyllid llywodraeth leol ac adnoddau ehangach llywodraeth leol;
  • Rhoi trosolwg o'r system drethu leol (y Dreth Gyngor ac Ardrethi Busnes); a'r
  • Rhoi trosolwg o'r system Budd-dal Tai.