Materion Cyfansoddiadol a Pharatoi ar gyfer Cyfarfodydd

  • Dydd Llun 23 Mai, 10.00 – 12.30
  • Y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Contributors: Linda Rees Jones (Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith ), Robert Edgecombe (Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol)

Mae gweddarlledu bellach yn cael ei gyflwyno mewn cynghorau ledled Cymru i ddarlledu amrywiaeth o gyfarfodydd cyngor i'r cyhoedd. Mae hyn yn amlwg o bwys i gynghorwyr gan fod potensial i'r cyhoedd ymwneud yn ehangach â'r broses ddemocrataidd, ac i fusnes llywodraeth leol gael ei wneud yn fwy tryloyw.

Amcanion:

  • Rhoi trosolwg defnyddiol i'r aelodau o we-ddarlledu;
  • Cynghorion pwysig ar sut i wneud y mwyaf o ddatblygiad technolegol cyffrous sy'n cynnig potensial enfawr i wella'r modd y mae cynghorau'n ymgysylltu â'u cymunedau;
  • Trosolwg o faterion cyfansoddiadol;
  • Materion allweddol yn ymwneud â datgan buddiannau, gorchmynion safonol ac ymddygiad personol.