Aelodau Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed
- Dydd Mawrth 20 Medi, 10.00am - 12.30pm
- Contributors: Kevin Gerard (Rheolwr Pensiynau), Anthony Parnell (Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn)
Yn unol â chyfansoddiad Cyngor Sir Caerfyrddin, mae'n rhaid sefydlu pwyllgor ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed i wneud y canlynol:
- adolygu perfformiad y gronfa, penderfynu ar gyfeiriad strategol pob mater sy’n ymwneud â buddsoddi’r gronfa a monitro pob agwedd ar y swyddogaeth fuddsoddi;
- penderfynu ar faterion yr Awdurdod ynglŷn â Gweinyddu’r Gronfa Bensiwn.
Amcanion:
Rhoi trosolwg i'r Aelodau o'r Gronfa Bensiwn a'i gweithrediad ac felly rhoi i'r aelodau enwebedig y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau ar y Pwyllgor, a hynny'n ymwneud â'r swyddogaeth weinyddol a'r swyddogaeth fuddsoddi.
