Diogelu Corfforaethol

Diweddarwyd y dudalen: 31/10/2024

Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin “Mae Diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb"

Mae ‘Diogelu Corfforaethol’ yn disgrifio’r trefniadau sydd ar waith i sicrhau bod pob un o weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion a all fod mewn perygl o niwed.

Mae gan bawb – gweithwyr, contractwyr, gwirfoddolwyr a chynghorwyr – ran i’w chwarae o ran amddiffyn plant ac oedolion rhag niwed, boed y tu mewn neu’r tu allan i’r cartref. Cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn ymwybodol o ddiogelu yn eu gwaith beunyddiol i’r Cyngor a gwybod pryd a sut i fynegi pryderon.

Mae gan y Cyngor Bolisi Diogelu Corfforaethol sy’n darparu fframwaith ar gyfer pob Cyfarwyddiaeth a maes Gwasanaeth o fewn ac ar draws y Cyngor. Mae'n nodi cyfrifoldebau unigol ac ar y cyd mewn perthynas ag amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl ac yn sefydlu strwythur llywodraethu sy'n goruchwylio'r trefniadau sydd ar waith i sicrhau eu bod yn effeithiol.

Mae’r trefniadau Diogelu Corfforaethol yn cael eu goruchwylio gan:

Jake Morgan – Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Cynghorydd Jane Tremlett – Aelod Arweiniol dros Ddiogelu (Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Pwrpas y polisi yw nodi rolau a chyfrifoldebau gweithlu’r Cyngor gan gynnwys aelodau etholedig, a sicrhau bod pawb yn glir ynghylch eu rhwymedigaethau i hyrwyddo diogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Er y bydd gan bawb lefelau amrywiol o gyswllt â phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl, dylai pawb fod yn ymwybodol o arwyddion posibl o esgeulustod a chamdriniaeth a bod yn glir ynghylch beth i’w wneud os oes ganddynt bryderon.

Mae dyletswydd ar yr holl weithwyr, cynghorwyr a gwirfoddolwyr i roi gwybod am bryderon diogelu. Nid mater o ddewis personol yw hyn.

Polisi Diogelu Corfforaethol

Dylai pob gweithiwr fod yn effro i'r posibilrwydd o gam-drin neu esgeulustod.(Gweler enghreifftiau yn y Polisi Diogelu Corfforaethol)

Efallai y byddwch yn pryderu am ddiogelwch neu les plentyn neu oedolyn mewn sawl ffordd:

  • Efallai y bydd y person yn dweud wrthych.
  • Efallai y bydd y person yn dweud rhywbeth sy'n peri pryder i chi.
  • Efallai y bydd trydydd parti yn lleisio pryderon.
  • Efallai y byddwch yn gweld rhywbeth – digwyddiad neu anaf neu arwydd arall.

Staff, gwirfoddolwyr a chontractwyr yw ‘llygaid a chlustiau’ y Cyngor, wrth iddynt wneud eu gwaith o ddydd i ddydd. Nid cyfrifoldeb unrhyw un unigolyn yw penderfynu a yw cam-drin wedi digwydd neu a yw unigolyn mewn perygl o niwed; fodd bynnag, mae gennych gyfrifoldeb i weithredu os byddwch yn cael gwybod am bryder neu'n nodi pryder.

Mae rhoi gwybod am bryder diogelu yn ddyletswydd gyfreithiol a bydd methu â rhoi gwybod yn briodol yn cael ei ystyried yn fater difrifol.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, person ifanc neu oedolyn, yna rhaid i chi roi gwybod i'ch Arweinydd Diogelu Dynodedig a/neu gysylltu â Thimau Atgyfeirio’r  Gwasanaethau Plant neu Oedolion.

Swyddogion Dynodedig yr Awdurdod Lleol

  Enw Ebost
Plant    Rebecca Robertshaw RRobertshaw@sirgar.gov.uk 
Oedolion Cathy Richard CRichards@sirgar.gov.uk 

Arweinwyr Diogelu Dynodedig

Adran Enw Ebost
Cymunedau Avril Bracey ABracey@sirgar.gov.uk
Addysg a Phlant Jan Coles JColes@sirgar.gov.uk
Prif Weithredwr  Paul Thomas PRThomas@sirgar.gov.uk
Gwasanaethau Corfforaethol Helen Pugh HLPugh@sirgar.gov.uk
Lle a Seiwaith Jackie Edwards JMEdwars@sirgar.gov.uk

 

Os yw pryder yn ymwneud â phlentyn, cysylltwch â Thîm Atgyfeirio Canolog y Gwasanaethau Plant ar 01554 742322.

Os yw'r pryder yn ymwneud ag oedolyn, cysylltwch â Thîm Cyngor ac Asesu'r Gwasanaethau Oedolion (Llesiant Delta) ar 0300 333 2222.

Gellir hefyd rhoi gwybod ar-lein am bryderon ynghylch plentyn neu oedolyn mewn perygl. Ydych chi'n poeni am plentyn neu oedolyn? 

Os ydych chi'n withiwr proffesiynol ac yr hoffech rhoi gwybod am odolyn sy'n wynebu risg, cwbwlhewch Ffurlen Atgyfeirio Amlasiantaethol.

I rhoi gwybod am blant sy'n wynebu risg: Plant sy'n wynebu risk (MARF)

I rhoi gwybod am oedolyn sy'n wynebu risg: Oedolyn sy'n wynebu risk (MARF)

Dylid cysylltu â Thîm y Tu Allan i Oriau Arferol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0300 333 2222 os yw’r mater yn codi ar ôl 5:00pm, rhwng dydd Llun a dydd Gwener ac ar benwythnosau a Gwyliau Banc.

Y Timau Atgyfeirio Plant ac Oedolion yw’r pwynt cyswllt cychwynnol i bobl sy’n chwilio am wasanaethau a gweithgareddau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion yn lleol neu sydd am gael cyngor ac arweiniad ar sut i gael cymorth ychwanegol, neu i godi mater neu bryder ynghylch lles plentyn, person ifanc neu oedolyn.

Rhaid cysylltu â’r Heddlu ar unwaith os yw plentyn neu oedolyn mewn perygl, neu os cyflawnwyd trosedd.