Canllawiau Gweithio Hybrid Mehefin 2024

Beth yw gweithio hybrid ac i bwy mae'n berthnasol?

Mae gweithio hybrid yn fodel gweithio hyblyg. Mae'n berthnasol i'r rhai a gyflogir mewn rolau aml-leoliad lle nad yw eu gallu i ymgymryd â'u rôl yn dibynnu ar y lleoliad lle maent yn gweithio. Gall gweithwyr dreulio amser yn gweithio yn un o safleoedd y cyngor neu o bell (gartref, yn y gymuned neu mewn lleoliadau eraill).

Bydd ble rydych yn gweithio yn dibynnu ar y dasg rydych yn ei gwneud a'r math o rôl sydd gennych. Rydym am sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio mewn ffordd sy'n galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i gynnal ei weithgareddau mor effeithlon â phosibl, yn ogystal â rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i chi benderfynu sut a ble rydych yn gweithio orau.

Yn syml, mae'n ymwneud â sut rydych yn gwneud y gwaith cywir, yn y man cywir ar yr adeg gywir.

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

Rhaid i drefniadau gweithio hybrid gynnwys treulio o leiaf 40% o'ch amser yn y gweithle. Bydd y ffordd y gwneir hyn yn amrywio, yn dibynnu ar:

  • anghenion ein sefydliad
  • anghenion y gwasanaeth rydych yn gweithio ynddo
  • natur eich rôl
  • beth sy'n digwydd yn eich rôl a'ch tîm ar unrhyw adeg

Beth rydym yn ei ddisgwyl gan ein rheolwyr pobl

Mae llesiant gweithwyr yn bwysig i ni ac fel cyflogwr rydym yn credu bod angen i arweinwyr a rheolwyr fod yn weladwy ac ar gael i'w timau. I sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi'n briodol, rydym yn disgwyl i'n rheolwyr pobl dreulio ychydig mwy o amser yn y gweithle (o leiaf 50%). Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau bod rheolwyr ar gael wyneb yn wyneb i holl aelodau eu tîm.

O ystyried faint o hyblygrwydd y mae ein trefniadau gweithio hybrid yn ei ddarparu, rydym yn disgwyl i'n gweithlu fod yn hyblyg. Mae pob gwasanaeth a thîm yn wahanol, felly anogir rheolwyr ac aelodau'r tîm i gyflwyno arferion gwaith sy'n addas ar gyfer anghenion eu gwasanaeth.