Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr
Diweddarwyd y dudalen: 18/02/2025
Ym mis Chwefror 2019, gwnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin ymrwymiad sylweddol i ddatgan argyfwng hinsawdd a gosod nod clir i ddod yn awdurdod carbon sero net erbyn 2030. Fel rhan o'n bwriad i arwain o ran y mater hwn, ni oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Carbon Sero Net manwl, a gymeradwywyd yn ffurfiol gan y Cyngor ym mis Chwefror 2020.
Nid yw'r ymrwymiad hwn yn ymwneud â'n rôl fel awdurdod lleol yn unig; mae'n golygu arwain drwy esiampl ac ysbrydoli ein cymuned – trigolion, busnesau a sefydliadau eraill – i ymuno â ni i leihau eu hôl troed carbon. Fel aelodau staff, mae eich cyfraniad yn hanfodol i lwyddiant yr ymgyrch hon. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Er mwyn cyflawni ein nod carbon sero net erbyn 2030, rydym yn mabwysiadu dull ymarferol. Mae ein hallyriadau carbon mesuradwy yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, ond mae ein hymdrechion yn cwmpasu pob adran, ac mae amrywiaeth o fentrau gwahanol yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth gorfforaethol hon, mae angen cefnogaeth a chyfranogiad llawn holl staff y cyngor. Mae angen ystyried yr argyfwng hinsawdd yn eich ffrydiau gwaith, ac rydym yn eich annog i gymryd camau mawr a bach, p'un a yw hynny'n golygu eich bod yn diffodd sgrin eich cyfrifiadur ar ddiwedd y dydd neu'n cyfrannu at syniadau ac atebion.
Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn o ran creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer Sir Gâr. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i arwain trwy esiampl a gwneud gwahaniaeth i'n cymuned a'r blaned.
Mwy ynghylch Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr