Astudiaethau Achos a Straeon Llwyddiant
Diweddarwyd y dudalen: 08/05/2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno, ac yn parhau i gyflwyno, amrywiaeth eang o brosiectau sy'n helpu i liniaru ac addasu o ran newid hinsawdd. Dyma rai yn unig o'r prosiectau sydd wedi cael eu cwblhau yn ddiweddar.
Yn ddiweddar, cwblhawyd gwaith yng Nghanolfan Ddysg Caerfyrddin er mwyn ei gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni a sicrhau lleihad o 76% yn ei hallyriadau carbon. Mae mesurau ôl-osod sy'n cynnwys insiwleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl, a gwelliannau i doeau wedi'u gweithredu er mwyn cadw mwy o wres yn yr adeilad. Nid yw'r Ganolfan Ddysg bellach yn ddibynnol ar gyflenwad nwy gan fod Paneli Haul a Phwmp Gwres o'r Awyr yn darparu ynni a gwres i'r adeilad. Mae goleuadau LED effeithlon o ran ynni hefyd wedi'u gosod.
Nid yn unig y mae'r gwaith uwchraddio wedi lleihau'r effaith yr adeilad ar yr amgylchedd, mae hefyd wedi gwella'r cysur a'r profiad i'r rhai sy'n gweithio ac yn dysgu yn yr adeilad.
Er mwyn helpu i wella amgylchedd Awdurdod Sir Caerfyrddin a chynyddu bioamrywiaeth, trefnodd Tîm Cadwraeth Wledig ac Adran Eiddo y Cyngor i blannu dros 8,000 o goed llydanddail brodorol i greu 4.5 hectar o goetir newydd ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Nhre-gib (Llandeilo), Pendre (Cydweli) a Maesdewi (Llandybïe). Cynhaliwyd diwrnodau plannu cymunedol, gan gynnwys diwrnod ar gyfer disgyblion o Ysgol Gynradd Llandybïe, mewn dau o'r lleoliadau.
Wrth i goed dyfu a ffotosyntheseiddio, byddant yn gwaredu allyriadau carbon o'r atmosffer. Bydd y coetiroedd newydd hyn yn gynefinoedd newydd i fywyd gwyllt ac felly'n cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur ac yn dod yn fannau lle gall pobl fwynhau byd natur.
Mae cynlluniau wedi'u creu gan Dîm Cadwraeth y Cyngor, gyda chymorth yr Ardd Fotaneg, ar gyfer Meithrinfa Goed a thiroedd sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt gael eu datblygu yng Nghanolfan Ddydd Tre Ioan. Gyda chymorth ariannol gan gynllun cyllido 'Lleoedd ar gyfer Natur', bydd yr ardd yn cynnwys ardal dyfu yn yr awyr agored a gardd synhwyraidd hygyrch, gardd goetir, gardd gors, ardaloedd dolydd a pherllan. Er bod y prosiect yn cael ei gynnal yng nghanolfan Tre Ioan, bydd yn cynnwys yr holl wasanaethau dydd drwy gasglu a phlannu hadau brodorol. Mae yna gynlluniau hefyd ar y gweill i gynnal prosiect tebyg yng Nghanolfan Ddydd Ffordd y Faenor. Bydd yr ardd nid yn unig yn gwella bioamrywiaeth yr ardal, ond bydd hefyd yn ofod diogel a hygyrch i bawb ei fwynhau.
Dros nifer o flynyddoedd, ar draws Prydain, bu dirywiad enfawr mewn pryfed sy'n peillio ein blodau gwyllt, a'n cnydau, a elwir hefyd yn bryfed peillio. Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried ffyrdd o reoli glaswelltir fydd yn ei wneud yn gyfoethocach mewn blodau gwyllt ac yn fwy deniadol i bryfed peillio. Yn syml, drwy dorri'n llai aml, gall blodau sydd eisoes yn tyfu yn y gwair flodeuo a hefyd cefnogi pryfed. Does dim angen hau hadau blodau gwyllt. Yr haf diwethaf, arbrofodd y Cyngor gyda'r dull newydd hwn a chafodd groeso brwd gan breswylwyr a oedd yn mwynhau gweld y glaswelltiroedd llawn blodau.
Datgarboneiddio gwres yw'r her fwyaf rydym ni yn ei hwynebu ar hyn o bryd gan fod angen llawer iawn o ynni i gynhyrchu gwres. Rydym ni'n hynod ffodus ein bod wedi llwyddo i gael y Grant Gwres Carbon Isel gan Lywodraeth Cymru, ac rydym ni wedi gosod pympiau gwres o'r aer mewn 6 ysgol gynradd ledled y sir. Mae eu systemau gwresogi sy'n defnyddio tanwydd ffosil wedi'u gwaredu, gan arbed 161tCO₂e, sef allyriadau carbon, rhag cael eu hallyrru i'r atmosffer bob blwyddyn. Hefyd cafodd Ynni Solar Ffotofoltäig ei osod ar y to ym mhob ysgol i helpu i liniaru'r trydan sydd ei angen i gynnal y pympiau gwres, gan wneud y systemau hyd yn oed yn fwy cynaliadwy.
Mae Wal Fyw wedi'i gosod yn ddiweddar ar ffasâd Llyfrgell Llanelli sydd â nifer o fanteision. Mae wedi cynyddu bioamrywiaeth leol ac wedi gwella ansawdd aer y dref. Mae hefyd yn dal 23.56kg o garbon bob blwyddyn, sy'n cyfateb i 6 choeden ganolig, ac mae hefyd yn rhoi hwb i lesiant pobl.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio mewn partneriaeth â Nappicycle i gyflawni prosiect arloesol sy'n mynd i'r afael â dwy brif her - dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a chynnal a chadw ffyrdd mewn modd cynaliadwy. Yn ystod y prosiect peilot ar y B4336 ym Mhont-tyweli roedd tua 80,000 o gewynnau, oedd wedi cael eu casglu gan y Cyngor, wedi'u hailgylchu'n belenni ffibrog yng nghyfleuster Nappicycle yng Nghapel Hendre. Yna cafodd y pelenni hyn eu cynnwys yn y deunydd arwynebu Asffalt Mastig Carreg (SMA) yn ffatri GH Harries yn yr Eglwys Lwyd, Sir Benfro. Cafodd y deunydd arwynebu hwn ei ddefnyddio ar gyfer gwneud gwelliannau i arwynebau ffyrdd. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o economi gylchol leol ar waith yn ogystal â rheoli gwastraff a phriffyrdd mewn modd mwy cynaliadwy. Mae defnyddio contractwyr lleol hefyd wedi cael mwy o effaith ar leihau ein hôl troed carbon trwy leihau'r milltiroedd a deithiwyd, ynghyd â manteision eraill fel rhoi hwb i'r economi leol.
Mae ein hadran Hamdden yn hyrwyddo datblygu cynaliadwy drwy eu Hyrwyddwyr Gwyrdd.
Mae'r Hyrwyddwyr yn wirfoddolwyr o wahanol dimau hamdden ac maen nhw'n cwrdd bob mis i drafod prosiectau a rhannu arferion da. Nod yr Hyrwyddwyr yw annog pob aelod o staff i weithio a meddwl mewn modd cynaliadwy er mwyn i hynny ddod yn ail natur. Maen nhw hefyd wedi ysgrifennu'r Cynllun Cynaliadwyedd ar gyfer y Gwasanaethau Hamdden (Gorffennaf 2024) sy'n egluro sut bydd y gwasanaeth Hamdden yn rhoi sylw i newid hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth. Maen nhw'n dosbarthu ffurflenni adborth i staff yn rheolaidd i'w hannog i wneud addewid gwyrdd ac i gyflwyno eu syniadau ar sut i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon. Hefyd, maen nhw wedi hybu cynnwys egwyddorion lleihau carbon ac economi gylchol mewn meini prawf gwerthuso caffael, sydd wedi cael eu defnyddio'n ddiweddar yn yr ymarferion caffael ar gyfer peiriannau gwerthu mewn cyfleusterau hamdden a'r cyfleuster gwallgolff newydd yn Caban ym Mhentywyn. Roedden nhw'n cynnwys manylebau, fel cyflenwyr lleol, defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, lleihau plastig untro, ac offer sy'n gallu cael eu hailgylchu.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gael gwybod sut i gymryd rhan, cysylltwch â Richard Stradling – Rstradling@sirgar.gov.uk.
Mae Canolfan Hamdden Caerfyrddin wedi cael canmoliaeth yn ddiweddar am eu gwaith i gyflwyno cyfleusterau gwahanu deunydd ailgylchu i'r safle, ac mae WRAP Cymru wedi'u defnyddio fel esiampl ar eu gwefan. Mae'r safle wedi llwyddo i gynyddu eu cyfradd ailgylchu i 70% o'r holl wastraff. I ddysgu mwy am sut mae Canolfan Hamdden Caerfyrddin wedi cyflwyno'r gyfraith newydd ynghylch ailgylchu yn y gweithle, ewch i Ailgylchu yn y Gweithle - Gweminarau
Mwy ynghylch Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr