Beth rydym yn ei wneud?
Diweddarwyd y dudalen: 18/02/2025
Mae Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr yn galw ar yr holl staff i fod yn weithgar o ran ysgogi newid a dechrau sgyrsiau a fydd yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Boed yn y gwaith, yn y cartref, yn y gymuned, neu ar y cyfryngau cymdeithasol, mae angen i bawb rannu syniadau, gweithredu a chydweithio i greu dyfodol mwy cynaliadwy.
O ran y staff, mae cwmpas Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr yn cynnwys ystod eang o gamau gweithredu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob prosiect adeiladu mawr newydd, gan gynnwys tai ac ysgolion, yn effeithlon o ran ynni ac yn ymgorffori ynni adnewyddadwy, yn ogystal ag ôl-osod mesurau arbed ynni i adeiladau hŷn. Gallai'r rhain gynnwys paneli solar Ffotofoltäig, goleuadau Deuodau Allyrru Golau (LED), rheolyddion goleuadau datblygedig, pibellau wedi'u hinswleiddio, uwchraddio boeleri, a thechnolegau arbed dŵr a gwres.
Yn ogystal, rydym yn gweithio i leihau ein hallyriadau carbon yn gyffredinol. Rydym wedi ymrwymo i gyrchu ein holl drydan o ffynonellau adnewyddadwy ac rydym yn cymryd camau fel newid goleuadau stryd i dechnoleg LED ynni-effeithlon. Mae ein fflyd hefyd yn cael ei huwchraddio, sy'n cynnwys cerbydau trydan a cherbydau sbwriel a graeanu mwy ynni-effeithlon.
Trwy wneud y newidiadau hyn, rydym nid yn unig yn arwain trwy esiampl ond hefyd yn creu dyfodol cynaliadwy i bawb. Mae eich cyfranogiad yn hollbwysig – gyda'n gilydd, gallwn gyflawni newid go iawn. Gadewch i ni sicrhau bod Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr yn llwyddiant a gosod y safonau ar gyfer dyfodol gwyrddach, mwy ynni-effeithlon.
Mwy ynghylch Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr