Gwaredu'r Mythau

Diweddarwyd y dudalen: 04/03/2026

Yma rydyn ni'n ateb rhai cwestiynau cymhleth ynghylch newid yn yr hinsawdd. Mae hwn yn lle gwych i ddysgu ychydig mwy ac ehangu eich gwybodaeth.

 

                                               

 

                                                         

Nid yn hollol – mae cynhesu byd-eang yn achosi newid yn yr hinsawdd. Mae cynhesu byd-eang yn disgrifio faint mae tymheredd wyneb y Ddaear yn codi. Mae'r cynhesu yn dylanwadu ar amodau tywydd cyfartalog a elwir yn newid yn yr hinsawdd. 

                                           

Mae hinsawdd y Ddaear bob amser wedi newid yn naturiol dros amser. Fodd bynnag, heddiw mae'n newid ar gyfradd ddigynsail oherwydd newid yn yr hinsawdd a achosir gan bobl, yn bennaf drwy losgi tanwydd ffosil yn ormodol. Mae'r newidiadau cyflym hyn yn creu amodau peryglus nad yw systemau naturiol a chymdeithasau dynol yn gallu addasu'n ddigon cyflym iddynt. Enghraifft wych yw'r cynnydd mewn digwyddiadau tywydd eithafol sy'n fygythiad sylweddol i gymunedau ac ecosystemau fel ei gilydd. 

                                 

Eich ôl troed carbon yw faint o nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer drwy eich gweithgareddau pob dydd. 

                                     

Llygredd yw cyflwyno sylweddau neu ynni niweidiol i'r amgylchedd mewn symiau sy'n niweidio ecosystemau, iechyd pobl a phrosesau naturiol ac mae pedwar prif fath:

-          Llygredd Aer

Ystyr hyn yw halogi'r aer gan nwyon, cemegau neu ronynnau sy'n dod yn bennaf o losgi tanwydd (e.e. glo, olew, nwy naturiol, pren), prosesau diwydiannol a cherbydau.

Mae'r nwyon a'r gronynnau hyn yn cael effaith uniongyrchol ar newid yn yr hinsawdd gan eu bod yn cyfrannu at yr effaith tŷ gwydr. Gallant hefyd achosi glaw asid sy'n niweidio coedwigoedd, priddoedd ac ecosystemau dŵr croyw. Ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU, lle gall amlygiad hirdymor achosi clefydau'r galon a'r ysgyfaint, gan arwain at ddisgwyliad oes llai. Gall hefyd fod yn niweidiol i anifeiliaid a lleihau twf planhigion.

-          Llygredd dŵr

Ystyr hyn yw halogi cyrff dŵr, fel afonydd, llynnoedd, cefnforoedd a dŵr daear, gan wrteithiau cemegol, plastigau, carthffosiaeth, olew, deunyddiau fferyllol, plaladdwyr, tail a gwastraff diwydiannol, ac ati. Mae llygredd mewn dŵr yn niweidiol i fywyd dyfrol, er enghraifft drwy achosi prosesau fel ewtroffigedd sy'n cynyddu twf organebau fel algâu yn y dŵr. Mae hyn yn lleihau faint o ocsigen sydd yn y dŵr ac yn aml mae'n arwain at farwolaeth pob organeb arall, megis pysgod a'r anifeiliaid di-agswrn-cefn y maent yn dibynnu arnynt. Gall llygryddion yn y dŵr hefyd niweidio bywyd gwyllt yn uniongyrchol, er enghraifft, gall plastig anafu neu ladd anifeiliaid, a gall cemegau gwenwynig wenwyno bywyd morol.  Gall dŵr llygredig hefyd ledaenu afiechydon sy'n niweidiol i iechyd pobl.

-          Llygredd pridd (tir)

Mae llygredd pridd (tir) yn cyfeirio at bresenoldeb sylweddau niweidiol mewn pridd mewn crynodiadau a allai beri risgiau i iechyd pobl, ecosystemau, neu'r amgylchedd. Gall ddigwydd drwy weithgareddau fel prosesau diwydiannol, gwaredu gwastraff, storio tanwydd, defnyddio cemegau penodol, a defnyddiau tir hanesyddol.

Nid yw pridd halogedig bob amser yn atal planhigion rhag tyfu; fodd bynnag, yn dibynnu ar y math a lefel yr halogiad, gall effeithio ar iechyd y pridd, lleihau bioamrywiaeth, a chyflwyno sylweddau niweidiol i'r amgylchedd. Gall risgiau i bobl godi lle mae halogion yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd, yn cael eu llyncu'n uniongyrchol, neu lle mae llwch a nwyon o'r ddaear yn cael eu hanadlu.

Mae priddoedd iach yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Maent yn storio symiau mawr o garbon, yn rheoleiddio llif dŵr, ac yn cefnogi llystyfiant sy'n amsugno carbon deuocsid o'r atmosffer. Pan fydd priddoedd yn cael eu llygru neu eu diraddio, gellir lleihau eu gallu i storio carbon a chefnogi ecosystemau, a allai waethygu effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae amddiffyn a gwella ansawdd pridd felly yn cefnogi iechyd yr amgylchedd a gwytnwch hinsawdd, gan helpu i ddiogelu cynhyrchu bwyd, bioamrywiaeth a llesiant pobl.

-          Llygredd sŵn

Ystyr hyn yw lefelau sain gormodol neu niweidiol yn yr amgylchedd. Y prif enghreifftiau yw traffig, peiriannau swnllyd ac awyrennau. Gall llygredd sŵn fod yn niweidiol i bobl, gan achosi gorbryder, straen, colli clyw ac amddifadedd cwsg. Gall hefyd roi straen ar anifeiliaid ac amharu ar ymddygiad bywyd gwyllt, a gall fod goblygiadau enfawr i ecosystemau.

-          Llygredd golau

Mae hyn yn cyfeirio at olau artiffisial gormodol neu gamgyfeiriedig yn yr amgylchedd. Mae ffynonellau cyffredin yn cynnwys goleuadau stryd, adeiladau wedi'u goleuo, a hysbysfyrddau hysbysebu. Gall llygredd golau amharu ar gylchoedd naturiol, drysu patrymau mudol, ac ymyrryd ag ymddygiad bywyd gwyllt nos, a all gael effeithiau sylweddol ar ecosystemau. I bobl, gall gyfrannu at anhwylderau cwsg ac effeithio'n negyddol ar iechyd cyffredinol drwy aflonyddu ar gloc eich corff (rhythm circadaidd) sy'n rheoleiddio newidiadau corfforol, meddyliol ac ymddygiadol.

                                   

Yn wahanol i gerbydau hylosgi confensiynol, sy'n llosgi tanwydd ffosil, mae cerbydau trydan yn cael eu rhedeg ar bŵer trydanol gan arwain at beidio â rhyddhau unrhyw allyriadau ecsôst. Un o brif fanteision cerbydau trydan yw y gallant wella ansawdd yr aer y mae pobl yn ei anadlu yn ein trefi a'n pentrefi. 

Yn ogystal â bod yn ddull glanach o deithio o gymharu â cherbydau hylosgi, maent hefyd yn fwy effeithlon o ran trosi ynni'n fudiant, ac felly mae ganddynt ôl troed carbon is na cherbydau confensiynol, hyd yn oed wrth eu gwefru o'r prif gyflenwad trydan. Oherwydd dulliau newydd o gynhyrchu ynni, gellir gwefru cerbydau trydan bellach gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy (e.e. Solar Ffotofoltäig) o fewn y grid pŵer, neu'n uniongyrchol o ffynonellau adnewyddadwy ar eich hybiau gwefru cartref neu leol. Oblegid hyn, gellir lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr hyd yn oed ymhellach, gan roi cyfle i ddull glân o drafnidiaeth ddefnyddio math glân o bŵer. Wrth i gridiau trydan symud tuag at ddatgarboneiddio llawn, bydd ôl troed carbon gweithredol cerbydau trydan yn y pen draw yn gostwng i sero, gan eu gwneud yn ddull trafnidiaeth allyriadau sero. Yn ogystal, mae cerbydau trydan nid yn unig yn lleihau llygredd aer ond yn lleihau llygredd sŵn gan fod moduron trydan yn fwy tawel na pheiriannau tanio arferol.

                                         

Mae Cymru'n cael ei chanmol am fod yn arweinydd ym maes gweithredu er budd yr hinsawdd ac mae'n hyrwyddo datgarboneiddio a chadwraeth natur. Mae gan Gymru darged cyfreithiol rhwymol o fod yn Sero Net erbyn 2050 a tharged i amddiffyn 30% o'i dir, dŵr croyw a môr erbyn 2030. 

Yn 2024 cafodd Cymru ei rhestru fel yr ail genedl orau o ran ailgylchu gwastraff trefol mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop. Ar ben hynny, y DU yw'r economi fawr gyntaf yn y byd i haneru ei hallyriadau carbon (2022), ac mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi tynnu sylw at y ffaith bod y gyfradd flynyddol gyfartalog o leihau allyriadau wedi bod yn uwch yng Nghymru ers 2015 nag unrhyw wlad arall yn y DU a'r DU gyfan. Felly, os ydych chi'n ystyried sefyllfa'r DU mewn lleihau allyriadau byd-eang ac yna sefyllfa Cymru yn y DU, mae Cymru yn y pen draw yn cael effaith fawr ar ostyngiadau byd-eang. Mae Cymru hefyd wedi llwyddo i gyrraedd ei dwy gyllideb carbon ac mae lleihad o 38% wedi bod yn ei hallyriadau ers 1990.

                         

Mewn gwirionedd, mae dros 140 o wledydd wedi cyhoeddi neu'n ystyried targedau Sero Net. Mae hyn yn cyfrif am 90% o allyriadau byd-eang, a all fod â manteision allweddol wrth greu dyfodol mwy cynaliadwy i'r byd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i chwarae ein rhan. 

Ar ben hynny, mae'n ymddangos bod gwledydd sy'n allyrrwyr mawr yn gwneud dim, ac mae Tsieina yn enghraifft wych. Mewn gwirionedd, mae Tsieina wedi cael diwygiad ynni enfawr a dyma'r cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf yn y byd, gan gynhyrchu 31% o ynni adnewyddadwy byd-eang. Yn ogystal, drwy gamau llym gan y llywodraeth mae wedi lleihau llygredd aer yn sylweddol. Mae hyn wedi'i wneud drwy gau hen ffatrïoedd a oedd yn llygrwyr mawr a rhoi rheolau llymach ar waith ynghylch gorsafoedd pŵer er mwyn lleihau allyriadau a'u gwneud yn fwy effeithlon. Maent wedi gweithredu rheolaethau traffig gan gynnwys cyfyngiadau cerbydau, mwy o fflydoedd bysiau a lorïau trydan a mwy o bwyslais ar deithio llesol (cerdded, olwyno a beicio). Maent hefyd wedi lansio ymgyrchoedd tyfu coed enfawr a gwella mannau gwyrdd trefol. Ar ben hynny, ni allwn feirniadu llygredd Tsieina pan fydd ein chwant ein hunain am nwyddau rhad yn ysgogiad mawr i'w hallyriadau.

Felly, efallai y bydd yn ymddangos nad yw gwledydd eraill yn gwneud unrhyw beth i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd neu wella'r amgylchedd naturiol, ond mewn gwirionedd maent yn gwneud diwygiadau enfawr. Mae hyn yn ein dysgu ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud ein hymchwil ein hunain gan ei bod yn bosibl ein bod yn clywed un naratif yn unig.

                               

Mae ein cynefinoedd naturiol yn amsugno carbon deuocsid drwy'r broses o ffotosynthesis. Gall hyn helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd gan fod llai o garbon deuocsid yn yr atmosffer sy'n un o'r prif nwyon sy'n cyfrannu at yr effaith tŷ gwydr, sy'n gyfrifol am ddal gwres ac achosi cynhesu byd-eang. Mae ein cynefinoedd naturiol hefyd yn helpu gydag addasu i'r hinsawdd; mae coed yn helpu o ran oeri trefol gan eu bod yn darparu cysgod ac yn rhyddhau anwedd dŵr, sy'n lleihau'r effaith ynys wres. Maent hefyd yn helpu i atal llifogydd gan fod y gwreiddiau yn amsugno dŵr gormodol, ac mae planhigion a choed yn arafu dŵr ffo ac yn atal erydiad pridd drwy rwymo'r pridd. Mae coed hefyd yn helpu o ran ansawdd aer gan eu bod yn hidlo llygryddion ac yn rhyddhau ocsigen yn ôl i'r atmosffer. Fodd bynnag, mae'n fwy na choed - gall morfeydd heli arfordirol liniaru newid yn yr hinsawdd yn sylweddol drwy ddal a storio carbon atmosfferig yn eu planhigion a'u gwaddodau. Mae cynefinoedd arfordirol hefyd yn lleihau effeithiau stormydd drwy leihau effaith tonnau storm. Gall glaswelltiroedd hefyd liniaru newid yn yr hinsawdd yn bennaf drwy weithredu fel dalfeydd carbon enfawr, gan storio symiau enfawr o garbon o dan y ddaear yn eu systemau gwreiddiau a'u priddoedd helaeth. Felly, mae cynefinoedd naturiol yn helpu i gynnal cylch carbon iach sy'n hanfodol i fywyd ar y Ddaear.