Newid Hinsawdd
Diweddarwyd y dudalen: 18/02/2025
Cynhesu byd-eang yw'r cynnydd hirdymor yn nhymheredd y Ddaear oherwydd gweithgareddau dynol. Mae hyn yn cael ei achosi'n bennaf drwy losgi tanwydd ffosil fel glo, olew a nwy naturiol, sy'n rhyddhau carbon deuocsid a nwyon niweidiol eraill i'r atmosffer sy'n dal gwres yr haul ac yn codi tymereddau.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac yn cydnabod bod gennym ran bwysig i’w chwarae er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain a rhoi arweiniad er mwyn annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i leihau eu hôl troed carbon hwythau. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd bragmatig tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030, gan adrodd ar bedwar cam allweddol mesuradwy. Nid yw hyn yn atal camau ehangach eraill i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, sy'n cael eu gwneud ar draws adrannau'r Cyngor.
Mae newid hinsawdd yn effeithio ar bobl ledled y byd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyfnodau o wres mawr eithafol a stormydd amlach, aflonyddwch i systemau bwyd, a chynnydd mewn afiechydon. Mae hefyd yn bygwth cymunedau yn Sir Gâr, gan achosi problemau fel llifogydd a dinistr a achosir gan stormydd amrywiol. Mae ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, amgylcheddau naturiol a hanesyddol, cartrefi a'r busnesau sy'n gyrru ein heconomi i gyd mewn perygl, a bydd hynny ond yn gwaethygu.
Mwy ynghylch Gweithredu ar Newid Hinsawdd Sir Gâr