Teithio staff a milltiroedd busnes

Diweddarwyd y dudalen: 18/02/2025

Fel awdurdod rydym wedi arbed dros £2m o wariant cysylltiedig â theithio ers 2012, ond gan fod hawliadau teithio staff yn parhau i fod dros £1.7m, rydym yn parhau i edrych ar sut y gallwn leihau'r gwariant hwn.

Mae dadansoddiad diweddar o ddata teithio staff yn dangos bod milltiroedd staff a chostau cysylltiedig yn cynyddu tua 10% bob blwyddyn yn ôl pob golwg.


Mae llawer o fanteision yn gysylltiedig â lleihau teithio busnes, nid yn unig i'r cyngor o safbwynt ariannol ond hefyd i chi fel unigolyn ac i'n cymuned ehangach.

• gostyngiad mewn amser teithio
• mwy o hyblygrwydd a chydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd
• gwell cynhyrchiant
• llai o draffig, yn enwedig yn ystod oriau brig
• llai o lygredd aer a sŵn

Pan fo angen ymweliadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, anogir rheolwyr a gweithwyr i ystyried yr opsiynau canlynol yn lle defnyddio car personol a chyflwyno hawliad teithio.

Ceir Adrannol:

Gall unrhyw aelod o staff archebu ceir adrannol corfforaethol, sydd wedi'u lleoli ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin a Depo Trostre, Llanelli. Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car adrannol ar gael ar y fewnrwyd.

Mae ceir tîm penodol hefyd ar gael mewn rhai gwasanaethau megis Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cynllunio, TG a Thai a Diogelu'r Cyhoedd. Os nad ydych yn siŵr a oes gan eich tîm gerbyd adrannol neu os nad ydych yn siŵr sut i archebu cerbyd, gwiriwch gyda'ch rheolwr llinell.

Mae hygyrchedd ceir adrannol hefyd yn cael ei adolygu fel rhan o'r symudiad i gyfnerthu staff mewn adeiladau craidd ar draws y sir a bydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i sicrhau bod digon o geir adrannol ar y safleoedd hyn.

Llogi Car:

Ar gyfer teithiau hirach, fel teithiau y tu allan i'r sir, anogir staff i ddefnyddio opsiwn llogi car gan yr ystyrir mai dyma'r opsiwn mwyaf cost-effeithiol ar gyfer teithiau milltiroedd uwch (e.e. dros 60 milltir). Mae rhagor o fanylion am sut i archebu car i'w logi ar gael ar y tudalennau Teithio a Pharcio ar y fewnrwyd.
 
Trafnidiaeth Gyhoeddus:

Trafnidiaeth yw'r drydedd ffynhonnell fwyaf o allyriadau carbon yng Nghymru. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wrthi'n datblygu mentrau i leihau'r allyriadau niweidiol hyn drwy wella hygyrchedd, fforddiadwyedd a chyfleustra ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Os ydych chi'n archebu mewn da bryd, gall teithio ar y bws neu'r trên fod yn ddewis da yn lle llogi ceir, a mantais arall yw bod modd i chi ymlacio yn ystod eich taith a chyrraedd eich cyrchfan wedi dadflino ac yn barod i fynd.

Beicio:

Mae gennym ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i ddatblygu, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer teithiau byr bob dydd, fel mynd i'r gwaith, yr ysgol, siopa ac ati.

Os nad yw'n bell, gadewch y car, a beicio neu gerdded yn lle hynny. Dyna'r dewis iachach i chi a'r amgylchedd. Arbedwch arian ar danwydd, costau rhedeg a pharcio a lleihau tagfeydd a llygredd aer.

Os oes gennych ddiddordeb mewn lleihau eich dibyniaeth ar eich car a'ch bod yn gallu beicio i'r gwaith, beth am edrych ar y Cynllun Beicio i'r Gwaith ar gyfer staff. 
Menter gan y cyngor yw'r cynllun hwn sydd wedi prynu dros 300 o feiciau hyd yn hyn. Mae'n galluogi staff i logi beic a/neu ategolion a gymeradwywyd am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i brynu'r beic yn llwyr ar ddiwedd y cyfnod.

Os hoffech fynd un cam ymhellach i helpu'r blaned a lleihau llygredd trwy brynu Cerbyd Allyriadau Isel, mae'r cyngor yn cynnig cynllun ildio cyflog drwy'r darparwr Tusker, sydd â sawl cerbyd trydanol a hybrid ar gael.