22/11/2024
Fel Cyngor, rydym yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni, sy'n dechrau ddydd Llun, 25 Tachwedd ac sy'n parhau am 16 Diwrnod o Weithredu.
15/11/2024
Dewch draw i un o sioeau teithiol y gaeaf i staff yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ddydd Mawrth, 26 Tachwedd rhwng 11.30am - 12.45pm.
Rydym wedi crynhoi'r canlyniadau cyffredinol gan ddefnyddio system liwiau i'w gwneud hi'n hawdd gweld ein perfformiad dros y tair blynedd diwethaf.
08/11/2024
Rydym yn gweithio i wella ein proses ar gyfer archebu ystafelloedd cyfarfod.
Gallwch fwynhau cannoedd o gynigion a gostyngiadau yn cynnwys 15% oddi ar bris mynediad yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli. Cofrestrwch (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny) neu mewngofnodwch gyda'ch rhif gweithiwr (sydd ar eich slip cyflog) a Rhif Adnabod y cynllun 6991 i ddarganfod mwy.
Rydym yn gweithio gyda Salary Finance, darparwr llesiant ariannol sy'n cynnig mynediad at fenthyciadau fforddiadwy a ad-delir drwy eich cyflog, blaendaliadau ar dâl a enillir, arbedion syml ac addysg ariannol am ddim.
Yn cyflwyno My Money Matters, lle gallwch ddod o hyd i gymorth wedi'i deilwra ar gyfer pob cam o'ch taith ariannol, gan ddechrau gyda gwiriad iechyd ariannol syml.
Gallwch gael beic ac offer beicio newydd drwy'r cynllun Beicio i'r Gwaith a ddarperir gan ein partneriaid, Cycle Solutions. Mae'r Cynllun Beicio i'r Gwaith yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy'n eich galluogi i gael beic a/neu ategolion beicio i'w defnyddio ar gyfer beicio i'r gwaith ac arbed treth ac Yswiriant Gwladol o'ch cyflog gros. Gallwch ddewis eich cyfuniad perffaith o ran beic ac ategolion ac yna rhentu'r offer trwy ildio cyflog gyda'r cyngor.