Key2

Diweddarwyd y dudalen: 24/07/2025

Mae system rheoli'r fflyd Key2 yn rhoi sylw i holl ofynion rheoli'r fflyd ac asedau a hynny mewn un system ganolog hygyrch. Mae'n dileu'r angen am dasgau llafurus, fel rheoli diffygion, archebu ceir adrannol, adrodd, rheoli digwyddiadau a gwirio trwyddedau gyrwyr.

Mae cydymffurfio yn hollbwysig, ac mae modd addasu'r modiwl Rheolwr Cydymffurfio i anghenion pob fflyd. Gallwch chi greu ac amserlennu digwyddiadau rheolaidd ac untro sy'n gysylltiedig â cherbydau, fel gwasanaethu yn unol â gofynion y gwneuthurwr, MOT, ac archwiliadau cerbydau masnachol i sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu colli.

O ran cydymffurfio, mae'r system yn cynnwys llwybr archwilio digwyddiadau hanesyddol yn erbyn y cofnod asedau i alluogi rheolwyr fflyd i wirio a yw digwyddiadau hanesyddol yn cael eu cwblhau; cyn amser, ar amser neu'n hwyr. Yna mae'n creu'r 'dyddiad disgwyliedig' ar gyfer y digwyddiad nesaf yn awtomatig, fel gwasanaeth, MOT, neu archwiliadau.