Man gweithio achlysurol
Diweddarwyd y dudalen: 23/10/2024
Mae mannau gweithio achlysurol ar gael mewn adeiladau craidd a lleoliadau ychwanegol, fel llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, ar draws y sir. Maent yn darparu mannau gwaith cyfleus y gallwch eu defnyddio pan fyddwch yn yr ardal neu rhwng cyfarfodydd.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am bob lleoliad. Gallwch bori fesul tref i ddod o hyd i'r mannau gweithio achlysurol a gweld pa gyfleusterau sydd ar gael ym mhob safle.
Yn ogystal â'n hadeiladau craidd, mae gennym fannau gweithio achlysurol eraill mewn canolfannau hamdden a llyfrgelloedd. Mae'r lleoliadau hyn yn cynnwys Wi-Fi ac maent ar agor ar sail y cyntaf i'r felin. Er efallai na fydd rhai lleoliadau'n cynnwys yr holl gyfarpar sydd ei angen arnoch, maent yn dal i gynnig gweithle pwrpasol.
Mae'r prif fannau gweithio achlysurol yn cynnwys synwyryddion i'n helpu i bennu pa mor aml y byddant yn cael eu defnyddio. Maent ar gael ar sail y cyntaf i'r felin. Ni ellir archebu lleoedd ymlaen llaw
Cofiwch fod y mannau hyn yn fannau corfforaethol ac ar gael i bob gweithiwr.
*Nodyn: Mae'r amseroedd agor ar gyfer rhai lleoliadau yn ein llyfrgelloedd a'n canolfannau hamdden yn gyfyngedig. Cofiwch wirio amseroedd agor bob lleoliad er mwyn i chi gael mynediad.