17/10/2025
Mae’r Gymraeg i’w chlywed yn ddyddiol yma yn Sir Gâr, ac fel Cyngor, dy ni’n awyddus i ddysgu mwy am eich barn chi fel staff o ran defnydd o’r iaith yn y gweithle.
16/10/2025
Mae staff yn cael eu hannog i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio maes parcio Heol Spilman.
Os yw eich adran/gwasanaeth yn bwriadu cynnal ymgynghoriad, sicrhewch eich bod yn cysylltu â M&M cyn gynted â phosibl fel y gellir cynnwys eich gwaith yn y blaengynllun gwaith.
13/10/2025
Bydd eich meddyg teulu yn cysylltu â chi os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, ond os nad ydynt, bydd y cyngor yn talu'r gost unwaith eto eleni.
Gallwch fwynhau cannoedd o gynigion a gostyngiadau yn cynnwys 15% oddi ar bris mynediad yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli. Cofrestrwch (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny) neu mewngofnodwch gyda'ch rhif gweithiwr (sydd ar eich slip cyflog) a Rhif Adnabod y cynllun 6991 i ddarganfod mwy.
Rydym yn gweithio gyda Salary Finance, darparwr llesiant ariannol sy'n cynnig mynediad at fenthyciadau fforddiadwy a ad-delir drwy eich cyflog, blaendaliadau ar dâl a enillir, arbedion syml ac addysg ariannol am ddim.
Yn cyflwyno My Money Matters, lle gallwch ddod o hyd i gymorth wedi'i deilwra ar gyfer pob cam o'ch taith ariannol, gan ddechrau gyda gwiriad iechyd ariannol syml.
Gallwch gael beic ac offer beicio newydd drwy'r cynllun Beicio i'r Gwaith a ddarperir gan ein partneriaid, Cycle Solutions. Mae'r Cynllun Beicio i'r Gwaith yn fenter a gefnogir gan y Llywodraeth sy'n eich galluogi i gael beic a/neu ategolion beicio i'w defnyddio ar gyfer beicio i'r gwaith ac arbed treth ac Yswiriant Gwladol o'ch cyflog gros. Gallwch ddewis eich cyfuniad perffaith o ran beic ac ategolion ac yna rhentu'r offer trwy ildio cyflog gyda'r cyngor.