Strategaeth Cynnwys 2025-27
1. Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i wrando ar bobl Sir Gaerfyrddin, sydd eisiau ymgysylltu a chymryd rhan. Mae Cyfranogiad Effeithiol yn golygu bod pawb yn ymwybodol o sut y gallant ymuno â'r drafodaeth am y gwasanaethau rydyn ni fel cyngor yn eu dylunio a'u darparu; a sut y gallant gyfrannu at lunio'r dyfodol. Trwy gymryd y dull hwn, ein nod yw canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig fwyaf i'r bobl yn ein sir.
Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n effeithiol ac mae hyn yn cael ei ategu gan ystod o ddeddfwriaethau, gan gynnwys:
• Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
• Deddf Cydraddoldeb 2010.
• Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015.
• Mesur y Gymraeg 2011.
• Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
• Deddf Partneriaeth a Chaffael Cymdeithasol (Cymru) 2023.
Byddwn hefyd yn dilyn arfer gorau a safonau cenedlaethol, er enghraifft Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc a'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru. Byddwn yn parhau i fabwysiadu arfer gorau newydd, er enghraifft gyda llwyfannau ymgysylltu digidol a gweithio gyda'n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Byddwn yn gwerthuso effeithiolrwydd ein strategaeth drwy'r pecyn cymorth Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso Ymgysylltu â'r Cyhoedd. National-Principles-for-Public-Engagement-–-Evaluation-toolkit.pdf