ATODIADAU

Atodiad 1: Gweledigaeth y Cabinet – Crynodeb o Ddisgwyliadau'r Gweithlu

  • Sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn sefydliad amrywiol a chynhwysol.

  • Gweithio gyda grwpiau perthnasol i hyrwyddo'r Cyngor fel cyflogwr ar draws pob cymuned gan gynnwys o fewn y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

  • Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sbarduno gwaith ymgysylltu cymunedol ac arfer da mewn perthynas â recriwtio o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

  • Gweithio gyda grwpiau allanol perthnasol, i wella cynrychiolaeth a chyfeirio ar gyfer cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar wefan y Cyngor.

  • Edrych ar ffyrdd o wella ansawdd data cydraddoldeb ein gweithlu a gwella ansawdd y wybodaeth a gesglir yn barhaus er mwyn gwella'r broses o gynllunio a rheoli'r gweithlu.

  • Recriwtio mewn modd cystadleuol a gweithio tuag at wella lefelau recriwtio yn barhaus ar draws y sefydliad. Ceisio deall y camau sydd eu hangen er mwyn dod yn gyflogwr o ddewis yng Ngorllewin Cymru.

  • Gweithio i farchnata Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyflogwr deniadol i brentisiaid, pobl sy'n gadael yr ysgol a graddedigion. Canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc sy'n mudo o Sir Gaerfyrddin ac o ardaloedd gwledig.

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i gynyddu cyfran y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.

  • Ystyried gallu ein gweithlu yn y tymor byr a'r tymor hir i gyflawni gweledigaeth y weinyddiaeth bresennol.

  • Parhau i groesawu a hyrwyddo arferion gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad.

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid Gwasanaethau Cyhoeddus ac Undebau Llafur i wneud rhagor o waith ar yr agenda Cyflog Byw Gwirioneddol.

  • Byddwn yn gwneud mwy o ddefnydd o’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i drawsnewid ymhellach y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

  • Datblygu Strategaeth Trawsnewid y Cyngor a fydd yn darparu'r fframwaith strategol i gefnogi'r gwaith o weithredu rhaglen drawsnewid a newid ar draws y sefydliad.

Atodiad 2: Strategaeth Drawsnewid – Blaenoriaethau'r Gweithlu

  • Datblygu a chryfhau ymhellach fframwaith rheoli gweithlu strategol yr Awdurdod i gefnogi awydd y Cyngor i ddod yn ‘gyflogwr o ddewis’.

  • Datblygu ymhellach drefniadau Cynllunio’r Gweithlu y Cyngor er mwyn creu’r capasiti a’r cydnerthedd i gyflawni ei amcanion strategol a rhagweld a chwrdd ag anghenion i’r dyfodol.

  • Gofalu y gall y Cyngor wneud defnydd effeithiol o ddata i gryfhau perfformiad a rheolaeth strategol ei weithlu.

  • Gwneud defnydd effeithiol o dechnoleg i helpu i foderneiddio prosesau a gweithdrefnau gweithlu allweddol.

  • Cryfhau trefniadau’r Cyngor ar gyfer recriwtio, cadw a hyblygrwydd ei weithlu.

  • Sicrhau bod gan staff y Cyngor y sgiliau a’r ymddygiadau angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r agenda moderneiddio a thrawsnewid yn effeithiol fel y gall y Cyngor gyflawni ei nodau ac amcanion ehangach.

  • Parhau i geisio gwella iechyd a llesiant ein gweithlu.