Polisi Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol - Mawrth 2026

Yn yr adran hon



1. Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

1.1    Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cyfeirio at y defnydd o systemau cyfrifiadurol i gyflawni tasgau sydd fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol, fel deall iaith, adnabod patrymau, neu wneud penderfyniadau. Mae math penodol o AI, a elwir yn Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (GenAI), wedi'i gynllunio i greu cynnwys newydd fel testun, lluniau, sain, neu gôd, yn seiliedig ar batrymau y mae wedi'u dysgu o setiau data mawr.  
 
1.2.     Ymhlith enghreifftiau cyffredin o offer GenAI sydd ar gael i'r cyhoedd y mae ChatGPT, Google Bard, Midjourney, Deep Seek ac ati. Gall yr offer hyn helpu i ddrafftio negeseuon e-bost, crynhoi dogfennau, llunio adroddiadau, creu cyflwyniadau, a mwy. Maen nhw'n cael eu hintegreiddio fwyfwy i feddalwedd bob dydd a ddefnyddir ar draws y sector cyhoeddus.  
 
1.3.     Fodd bynnag, mae'n bwysig deall nad yw offer GenAI yn "gwybod" ffeithiau yn y ffordd y mae pobl yn ei wneud. Maen nhw'n cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar debygolrwydd a phatrymau, sy'n golygu y gallan nhw gynhyrchu allbynnau anghywir, camarweiniol neu ragfarnus. Nid oes gan yr offer hyn ymwybyddiaeth o gyd-destun, rhwymedigaethau cyfreithiol, na pholisïau awdurdod lleol oni bai eu bod wedi'u rhaglennu neu eu harwain yn benodol.  
 
1.4.     Mae'r polisi hwn wedi cael ei ddatblygu i sicrhau bod unrhyw ddefnydd o GenAI yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chan ei weithlu yn foesegol, yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau cyfreithiol a rheoleiddio. Mae'n darparu canllawiau ynghylch defnydd priodol, yn amlinellu risgiau posibl, ac yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer atebolrwydd a goruchwyliaeth.  
 
1.5.     Gall Cyngor Sir Caerfyrddin danysgrifio i'w offer GenAI ei hun, fel Microsoft Copilot a Magic Notes, sydd wedi'u hintegreiddio i amgylchedd digidol diogel y Cyngor. Mae'r offer GenAI mewnol, nad ydyn nhw yn gyhoeddus, wedi'u cynllunio i wella cynhyrchiant, cefnogi cydweithredu, a symleiddio tasgau arferol trwy ysgogi galluoedd deallusrwydd artiffisial.  
 
1.6.     Er bod yr offer hyn yn gweithredu o fewn seilwaith digidol diogel y Cyngor ac yn etifeddu rheolaethau diogelwch, cydymffurfiaeth a phreifatrwydd presennol, mae'n bwysig cydnabod y gall eu defnydd gynnwys prosesu data sensitif neu bersonol. Felly, rhaid i staff fod yn ofalus a defnyddio crebwyll proffesiynol wrth fwydo gwybodaeth i offer o'r fath, gan sicrhau bod data a rennir yn cyd-fynd â pholisïau diogelu data a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor.  
 
1.7.     Rhaid i bob defnydd o offer GenAI mewnol gydymffurfio â'r polisi hwn a fframwaith llywodraethu gwybodaeth ehangach y Cyngor. Pan fo ansicrwydd ynghylch priodoldeb defnyddio data sensitif gyda'r offer hyn, dylai staff ofyn am arweiniad gan y Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth o fewn y Gwasanaethau Digidol.