Polisi Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol - Mawrth 2026
2. Pwrpas
2.1. Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r rheoliadau ar gyfer y defnydd o Artiffisial Cynhyrchiol (GenAI) gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i weithwyr, ac yn cwmpasu ystyriaethau economaidd-gymdeithasol, cyfreithiol a moesegol, gan gynnwys atal rhagfarnau awtomataidd.
2.2. Mae'r polisi hwn yn llywodraethu'r defnydd o'r holl offer GenAI fel ChatGPT, Bard, a Bing, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n foesegol ac yn cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau a pholisïau'r cyngor.
