Polisi Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol - Mawrth 2026

5. Egwyddorion Defnyddio GenAI

5.1.     Rhaid defnyddio GenAI yn deg, gan osgoi rhagfarn, i hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogi nodau'r cyngor. Gall defnyddwyr ddefnyddio GenAI ar gyfer tasgau sy'n gysylltiedig â gwaith fel llunio adroddiadau, negeseuon e-bost, cyflwyniadau, lluniau, a chyfathrebiadau gwasanaeth cwsmeriaid, gan ddilyn egwyddorion defnyddio'r polisi hwn.  
 
5.2.     Llywodraethiant  
 
Cyn defnyddio technoleg GenAI, rhaid i ddefnyddwyr fod yn gwbl ymwybodol o'r polisi hwn. Dylid trafod unrhyw ymholiadau gyda'r Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth. Rhaid i chi ystyried y rheswm dros ddefnyddio GenAI, a'r wybodaeth sy'n cael ei bwydo iddo yn ogystal â'r canlyniadau a gynhyrchir a phwy fydd yn gweld hynny. Rhaid nodi hyn yn glir mewn unrhyw ddyfynbris neu ddogfen dendr. Rhaid nodi hyn yn glir mewn unrhyw ddyfynbris neu ddogfen dendr.  
 
5.3.     Wrth brynu Systemau Digidol gan ddefnyddio GenAI, rhaid cydymffurfio â rheolau a rheoliadau caffael y Cyngor.  
 
5.4.     Cyflenwyr  
 
Os defnyddir cyflenwyr technoleg GenAI o gwbl, rhaid darparu dogfennaeth ar degwch, lliniaru rhagfarn, ardystiadau diogelwch (fel ISO 27001 neu Cyber Essentials), ac arferion trin data. Bydd y Cyngor yn asesu'r rhain fel rhan o'r broses gaffael.  
 
5.5.     Hawlfraint   
 
Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr gydymffurfio â chyfreithiau hawlfraint wrth ddefnyddio GenAI. Gwaherddir defnyddio GenAI yn llwyr i gynhyrchu cynnwys sy'n torri hawliau eiddo deallusol eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddeunydd hawlfraint. Os yw defnyddwyr yn ansicr a yw defnydd penodol o GenAI yn torri hawlfraint, dylen nhw gysylltu â'r Gwasanaethau Cyfreithiol neu’r Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth cyn defnyddio GenAI. Gellir gwneud unrhyw ymholiadau drwy e-bostio legalservices@sirgar.gov.uk
 
5.6.     Cywirdeb 
 
Rhaid adolygu a golygu yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynhyrchu gan GenAI i sicrhau cywirdeb cyn ei defnyddio. Mae defnyddwyr GenAI yn gyfrifol am adolygu allbwn ac maen nhw'n atebol am sicrhau cywirdeb cynnwys a gynhyrchir gan GenAI cyn iddo gael ei ddefnyddio neu ei ryddhau. Os oes gan ddefnyddiwr unrhyw amheuaeth am gywirdeb gwybodaeth a gynhyrchir gan GenAI, ni ddylen nhw ei defnyddio.  
 
Mae'n bwysig nodi y gall offer GenAI gynhyrchu "rhithwelediadau" - allbynnau sy'n ymddangos yn gywir ond sy'n ffeithiol anghywir, yn gamarweiniol neu'n gyfan gwbl ffug. Gall y rhithwelediadau hyn godi oherwydd bod modelau GenAI yn seiliedig ar debygolrwydd, a gallan nhw gael goblygiadau gwleidyddol, cyfreithiol ac ariannol sylweddol i’r awdurdod. Felly, ni ddylid byth tybio bod cynnwys a gynhyrchir gan AI yn gywir a rhaid gwirio'r testun yn drylwyr bob amser.  
 
5.7.     Cyfrinachedd 
 
Ni ddylid rhoi gwybodaeth gyfrinachol a phersonol mewn unrhyw offer GenAI cyhoeddus am fod y rhain y tu hwn i reolaeth ein sefydliad, ac felly gall gwybodaeth fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth ddefnyddio GenAI, rhaid i ddefnyddwyr ddilyn yr holl gyfreithiau preifatrwydd data perthnasol a pholisïau'r Cyngor, megis ein polisi Trin Gwybodaeth Bersonol. Dylid ystyried Asesiadau Effaith Diogelu Data (DPIA) hefyd.  Os oes gan ddefnyddiwr unrhyw amheuaeth am gyfrinachedd gwybodaeth, ni ddylai ddefnyddio GenAI. 
 
Mae enghreifftiau o wybodaeth na ddylid ei rhoi mewn i offer GenAI cyhoeddus yn cynnwys dynodwyr personol (ee, enwau, cyfeiriadau, rhifau yswiriant gwladol), manylion achos sensitif, adroddiadau neu bolisïau drafft heb eu cyhoeddi, cofnodion gofal cymdeithasol, adroddiadau diogelu, canfyddiadau archwilio mewnol, a nodiadau achos cyfreithiol. 
 
5.8.     Defnydd Moesegol 
 
Rhaid defnyddio GenAI yn foesegol a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau perthnasol y Cyngor. Rhaid i ddefnyddwyr beidio â defnyddio GenAI i gynhyrchu cynnwys sy'n wahaniaethol, yn sarhaus neu'n amhriodol. Os oes unrhyw amheuon ynghylch priodoldeb defnyddio GenAI mewn sefyllfa benodol, dylai defnyddwyr siarad â'u rheolwyr llinell.  
 
5.9.     Datgelu Gwybodaeth a Goruchwyliaeth Ddynol 
 
Rhaid i ddefnyddwyr sicrhau bod penderfyniadau sylweddol dan gymorth GenAI yn esboniadwy ac yn cael eu dogfennu.  Pan ddefnyddir GenAI i gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar unigolion neu gymunedau, rhaid cofnodi rhesymeg glir dros ddefnyddio a dehongli allbynnau GenAI. Rhaid i bob allbwn gael ei adolygu gan berson cyn ei gymhwyso.  
 
Yn unol ag Erthygl 22 o GDPR y DU, mae gan unigolion yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio, sydd ag effeithiau cyfreithiol neu effeithiau tebyg arwyddocaol.