Polisi Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol - Mawrth 2026

1. Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) a Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol

1.1    Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cyfeirio at y defnydd o systemau cyfrifiadurol i gyflawni tasgau sydd fel arfer yn gofyn am ddeallusrwydd dynol, fel deall iaith, adnabod patrymau, neu wneud penderfyniadau. Mae math penodol o AI, a elwir yn Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (GenAI), wedi'i gynllunio i greu cynnwys newydd fel testun, lluniau, sain, neu gôd, yn seiliedig ar batrymau y mae wedi'u dysgu o setiau data mawr.  
 
1.2.     Ymhlith enghreifftiau cyffredin o offer GenAI sydd ar gael i'r cyhoedd y mae ChatGPT, Google Bard, Midjourney, Deep Seek ac ati. Gall yr offer hyn helpu i ddrafftio negeseuon e-bost, crynhoi dogfennau, llunio adroddiadau, creu cyflwyniadau, a mwy. Maen nhw'n cael eu hintegreiddio fwyfwy i feddalwedd bob dydd a ddefnyddir ar draws y sector cyhoeddus.  
 
1.3.     Fodd bynnag, mae'n bwysig deall nad yw offer GenAI yn "gwybod" ffeithiau yn y ffordd y mae pobl yn ei wneud. Maen nhw'n cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar debygolrwydd a phatrymau, sy'n golygu y gallan nhw gynhyrchu allbynnau anghywir, camarweiniol neu ragfarnus. Nid oes gan yr offer hyn ymwybyddiaeth o gyd-destun, rhwymedigaethau cyfreithiol, na pholisïau awdurdod lleol oni bai eu bod wedi'u rhaglennu neu eu harwain yn benodol.  
 
1.4.     Mae'r polisi hwn wedi cael ei ddatblygu i sicrhau bod unrhyw ddefnydd o GenAI yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chan ei weithlu yn foesegol, yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau cyfreithiol a rheoleiddio. Mae'n darparu canllawiau ynghylch defnydd priodol, yn amlinellu risgiau posibl, ac yn gosod disgwyliadau clir ar gyfer atebolrwydd a goruchwyliaeth.  
 
1.5.     Gall Cyngor Sir Caerfyrddin danysgrifio i'w offer GenAI ei hun, fel Microsoft Copilot a Magic Notes, sydd wedi'u hintegreiddio i amgylchedd digidol diogel y Cyngor. Mae'r offer GenAI mewnol, nad ydyn nhw yn gyhoeddus, wedi'u cynllunio i wella cynhyrchiant, cefnogi cydweithredu, a symleiddio tasgau arferol trwy ysgogi galluoedd deallusrwydd artiffisial.  
 
1.6.     Er bod yr offer hyn yn gweithredu o fewn seilwaith digidol diogel y Cyngor ac yn etifeddu rheolaethau diogelwch, cydymffurfiaeth a phreifatrwydd presennol, mae'n bwysig cydnabod y gall eu defnydd gynnwys prosesu data sensitif neu bersonol. Felly, rhaid i staff fod yn ofalus a defnyddio crebwyll proffesiynol wrth fwydo gwybodaeth i offer o'r fath, gan sicrhau bod data a rennir yn cyd-fynd â pholisïau diogelu data a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor.  
 
1.7.     Rhaid i bob defnydd o offer GenAI mewnol gydymffurfio â'r polisi hwn a fframwaith llywodraethu gwybodaeth ehangach y Cyngor. Pan fo ansicrwydd ynghylch priodoldeb defnyddio data sensitif gyda'r offer hyn, dylai staff ofyn am arweiniad gan y Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth o fewn y Gwasanaethau Digidol.


2. Pwrpas

2.1.     Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r rheoliadau ar gyfer y defnydd o Artiffisial  Cynhyrchiol (GenAI) gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i weithwyr, ac yn cwmpasu ystyriaethau economaidd-gymdeithasol, cyfreithiol a moesegol, gan gynnwys atal rhagfarnau awtomataidd.  
 
2.2.     Mae'r polisi hwn yn llywodraethu'r defnydd o'r holl offer GenAI fel ChatGPT, Bard, a Bing, gan sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n foesegol ac yn cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau a pholisïau'r cyngor.


3. Cwmpas

3.1.     Rhaid i bob unigolyn, gan gynnwys gweithwyr, gweithwyr achlysurol, staff asiantaeth, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr, ymgynghorwyr allanol neu gontractwyr, sy'n cael mynediad i gyfleusterau digidol gan y Cyngor, gytuno i gydymffurfio â'r polisi hwn.


4. Datganiad Polisi

4.1.     Bydd y polisi hwn yn cael ei ddefnyddio yn unol â:  
 
•    Polisi Diogelwch Gwybodaeth  
•    Polisi a'r Weithdrefn ar gyfer Trin Gwybodaeth Bersonol  
•    Polisi Riportio ac Ymateb i Achosion o Dorri Rheolau 
•    Deddfwriaeth berthnasol - gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau a Deddf Cydraddoldeb 2010.  


5. Egwyddorion Defnyddio GenAI

5.1.     Rhaid defnyddio GenAI yn deg, gan osgoi rhagfarn, i hyrwyddo cydraddoldeb a chefnogi nodau'r cyngor. Gall defnyddwyr ddefnyddio GenAI ar gyfer tasgau sy'n gysylltiedig â gwaith fel llunio adroddiadau, negeseuon e-bost, cyflwyniadau, lluniau, a chyfathrebiadau gwasanaeth cwsmeriaid, gan ddilyn egwyddorion defnyddio'r polisi hwn.  
 
5.2.     Llywodraethiant  
 
Cyn defnyddio technoleg GenAI, rhaid i ddefnyddwyr fod yn gwbl ymwybodol o'r polisi hwn. Dylid trafod unrhyw ymholiadau gyda'r Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth. Rhaid i chi ystyried y rheswm dros ddefnyddio GenAI, a'r wybodaeth sy'n cael ei bwydo iddo yn ogystal â'r canlyniadau a gynhyrchir a phwy fydd yn gweld hynny. Rhaid nodi hyn yn glir mewn unrhyw ddyfynbris neu ddogfen dendr. Rhaid nodi hyn yn glir mewn unrhyw ddyfynbris neu ddogfen dendr.  
 
5.3.     Wrth brynu Systemau Digidol gan ddefnyddio GenAI, rhaid cydymffurfio â rheolau a rheoliadau caffael y Cyngor.  
 
5.4.     Cyflenwyr  
 
Os defnyddir cyflenwyr technoleg GenAI o gwbl, rhaid darparu dogfennaeth ar degwch, lliniaru rhagfarn, ardystiadau diogelwch (fel ISO 27001 neu Cyber Essentials), ac arferion trin data. Bydd y Cyngor yn asesu'r rhain fel rhan o'r broses gaffael.  
 
5.5.     Hawlfraint   
 
Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr gydymffurfio â chyfreithiau hawlfraint wrth ddefnyddio GenAI. Gwaherddir defnyddio GenAI yn llwyr i gynhyrchu cynnwys sy'n torri hawliau eiddo deallusol eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddeunydd hawlfraint. Os yw defnyddwyr yn ansicr a yw defnydd penodol o GenAI yn torri hawlfraint, dylen nhw gysylltu â'r Gwasanaethau Cyfreithiol neu’r Tîm Llywodraethiant Gwybodaeth cyn defnyddio GenAI. Gellir gwneud unrhyw ymholiadau drwy e-bostio legalservices@sirgar.gov.uk
 
5.6.     Cywirdeb 
 
Rhaid adolygu a golygu yr holl wybodaeth sy'n cael ei chynhyrchu gan GenAI i sicrhau cywirdeb cyn ei defnyddio. Mae defnyddwyr GenAI yn gyfrifol am adolygu allbwn ac maen nhw'n atebol am sicrhau cywirdeb cynnwys a gynhyrchir gan GenAI cyn iddo gael ei ddefnyddio neu ei ryddhau. Os oes gan ddefnyddiwr unrhyw amheuaeth am gywirdeb gwybodaeth a gynhyrchir gan GenAI, ni ddylen nhw ei defnyddio.  
 
Mae'n bwysig nodi y gall offer GenAI gynhyrchu "rhithwelediadau" - allbynnau sy'n ymddangos yn gywir ond sy'n ffeithiol anghywir, yn gamarweiniol neu'n gyfan gwbl ffug. Gall y rhithwelediadau hyn godi oherwydd bod modelau GenAI yn seiliedig ar debygolrwydd, a gallan nhw gael goblygiadau gwleidyddol, cyfreithiol ac ariannol sylweddol i’r awdurdod. Felly, ni ddylid byth tybio bod cynnwys a gynhyrchir gan AI yn gywir a rhaid gwirio'r testun yn drylwyr bob amser.  
 
5.7.     Cyfrinachedd 
 
Ni ddylid rhoi gwybodaeth gyfrinachol a phersonol mewn unrhyw offer GenAI cyhoeddus am fod y rhain y tu hwn i reolaeth ein sefydliad, ac felly gall gwybodaeth fod ar gael i'r cyhoedd. Wrth ddefnyddio GenAI, rhaid i ddefnyddwyr ddilyn yr holl gyfreithiau preifatrwydd data perthnasol a pholisïau'r Cyngor, megis ein polisi Trin Gwybodaeth Bersonol. Dylid ystyried Asesiadau Effaith Diogelu Data (DPIA) hefyd.  Os oes gan ddefnyddiwr unrhyw amheuaeth am gyfrinachedd gwybodaeth, ni ddylai ddefnyddio GenAI. 
 
Mae enghreifftiau o wybodaeth na ddylid ei rhoi mewn i offer GenAI cyhoeddus yn cynnwys dynodwyr personol (ee, enwau, cyfeiriadau, rhifau yswiriant gwladol), manylion achos sensitif, adroddiadau neu bolisïau drafft heb eu cyhoeddi, cofnodion gofal cymdeithasol, adroddiadau diogelu, canfyddiadau archwilio mewnol, a nodiadau achos cyfreithiol. 
 
5.8.     Defnydd Moesegol 
 
Rhaid defnyddio GenAI yn foesegol a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau perthnasol y Cyngor. Rhaid i ddefnyddwyr beidio â defnyddio GenAI i gynhyrchu cynnwys sy'n wahaniaethol, yn sarhaus neu'n amhriodol. Os oes unrhyw amheuon ynghylch priodoldeb defnyddio GenAI mewn sefyllfa benodol, dylai defnyddwyr siarad â'u rheolwyr llinell.  
 
5.9.     Datgelu Gwybodaeth a Goruchwyliaeth Ddynol 
 
Rhaid i ddefnyddwyr sicrhau bod penderfyniadau sylweddol dan gymorth GenAI yn esboniadwy ac yn cael eu dogfennu.  Pan ddefnyddir GenAI i gefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar unigolion neu gymunedau, rhaid cofnodi rhesymeg glir dros ddefnyddio a dehongli allbynnau GenAI. Rhaid i bob allbwn gael ei adolygu gan berson cyn ei gymhwyso.  
 
Yn unol ag Erthygl 22 o GDPR y DU, mae gan unigolion yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, gan gynnwys proffilio, sydd ag effeithiau cyfreithiol neu effeithiau tebyg arwyddocaol.


6. Risgiau

6.1. Mae risgiau’n perthyn i ddefnyddio AI ac mae angen asesiad risg trylwyr. Ystyriwch effeithiau fel cydymffurfiaeth gyfreithiol, rhagfarn, amddiffyniadau diogelwch, ardystiadau, a sofraniaeth data a diogelu data.  
 
6.2. Cydymffurfiaeth gyfreithiol 
 
Gall defnyddio GenAI cyhoeddus arwain at ddata yn cael eu rhyddhau i'r cyhoedd, a’r posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth nad yw'n gyhoeddus a thorri gofynion rheoleiddio, contractau cwsmeriaid neu werthwyr, neu gyfaddawdu eiddo deallusol. Gallai rhyddhau unrhyw wybodaeth breifat neu bersonol heb ganiatâd y perchennog arwain at dorri deddfau diogelu data perthnasol. Yn ogystal, gall defnyddio GenAI i gynhyrchu cynnwys fod yn groes i reoliadau sy'n diogelu hawliau eiddo deallusol. Rhaid i ddefnyddwyr sicrhau bod eu defnydd o GenAI yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol, yn ogystal â pholisïau'r Cyngor.  
 
Gall GenAI greu canlyniadau anghywir, a dylid gwirio allbynnau yn drylwyr i sicrhau cywirdeb.  Os yw'r hyn a gynhyrchir gan GenAI yn anghywir, gall gael canlyniadau gwleidyddol, cyfreithiol ac ariannol sylweddol i'r awdurdod.  
 
Mae enghreifftiau’n cynnwys: 
 
Yn 2021, wynebodd awdurdod lleol yn y DU heriau cyfreithiol ar ôl dibynnu ar ddata a gynhyrchwyd gan AI a oedd yn anghywir yn nodi bod angen ailasesu'r dreth gyngor mewn eiddo, gan arwain at gynnydd treth anghywir. 
 
Defnyddiodd sefydliad sector cyhoeddus arall AI i sgrinio ymgeiswyr am swyddi, a gyflwynodd ragfarn yn anfwriadol ac arwain at arferion llogi gwahaniaethol.  

6.3.     Rhagfarn a gwahaniaethu 
 
Gall GenAI ddefnyddio a chynhyrchu cynnwys rhagfarnllyd, gwahaniaethol neu sarhaus. Dylai defnyddwyr ddefnyddio GenAI yn gyfrifol ac yn foesegol, yn unol â pholisïau'r cyngor a chyfreithiau a rheoliadau perthnasol.  
 
6.4.     Diogelwch 
 
Gall GenAI cyhoeddus storio data a gwybodaeth sensitif, a allai fod mewn perygl o gael eu torri neu eu hacio. Os oes gan ddefnyddiwr unrhyw amheuaeth am ddiogelwch gwybodaeth sy'n cael ei bwydo i GenAI, ni ddylai ddefnyddio GenAI.  
 
6.5.     Sofraniaeth data a diogelu data 
 
Gall llwyfannau GenAI cyhoeddus fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau sofraniaeth data, sy'n golygu bod gwybodaeth a grëwyd neu a gasglwyd mewn gwlad yn parhau i fod o dan awdurdodaeth y wlad honno. I'r gwrthwyneb, mae gwybodaeth sy'n dod o GenAI dramor yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r wlad.  
 
6.6.     Diogelu

Wrth ddefnyddio GenAI mewn cyd-destunau sy'n ymwneud â phlant neu unigolion agored i niwed, rhaid iddo gydymffurfio â pholisïau diogelu a Chôd Plant ICO.  
 
6.7.     Hygyrchedd a'r Iaith Gymraeg 
 
Rhaid i offer ac allbynnau GenAI gydymffurfio â safonau hygyrchedd WCAG 2.1 a bodloni Safonau'r Gymraeg lle bo hynny'n berthnasol.


7. Cydymffurfiaeth

7.1. Mae'n orfodol cydymffurfio â'r polisi hwn. Os na fydd staff yn cydymffurfio ag ef gellir cymryd camau disgyblu yn eu herbyn. Gellir hysbysu'r Pwyllgor Safonau am aelodau etholedig nad ydynt yn cydymffurfio â’r polisi hwn.


8. Gwarchodwr

8.1.     Cyfrifoldeb y Gwasanaethau Digidol yw sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru’n rheolaidd.


9. Sicrhau Triniaeth Gyfartal

9.1.     Rhaid arfer cysondeb yn y modd y gweithredir y polisi hwn wrth ymdrin â phob un, heb ystyried hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, oedran, rhyw, ailbennu rhywedd, hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws o ran cyfrifoldebau magu plant neu briodasol.


10. Geirfa

Deallusrwydd Artiffisial (DA) 
Efelychu deallusrwydd pobl mewn peiriannau sydd wedi'u rhaglennu i feddwl a dysgu fel pobl. Gall AI gyflawni tasgau fel deall iaith, adnabod patrymau, a gwneud penderfyniadau.  
 
AI Cynhyrchiol (GenAI)  
Math o AI wedi'i gynllunio i greu cynnwys newydd, fel testun, lluniau, sain, neu gôd, yn seiliedig ar batrymau y mae wedi'u dysgu o setiau data mawr. Ymhlith enghreifftiau y mae ChatGPT, Google Bard, a Microsoft Copilot. 
 
Modelau Iaith Mawr (LLMs) 
Is-set o GenAI sy'n canolbwyntio ar ddeall a chynhyrchu iaith pobl.  Mae LLMs wedi'u hyfforddi ar symiau enfawr o ddata testun a gallan nhw gyflawni tasgau fel cyfieithu, crynhoi, a sgwrsio. 
 
Awgrym 
Darn o destun neu fewnbwn a fwydir i fodel GenAI i gynhyrchu ymateb. Gall ansawdd a phenodoldeb yr awgrym ddylanwadu ar gywirdeb a pherthnasedd yr hyn a gynhyrchir.  
 
Rhagfarn 
Tueddiad modelau AI i gynhyrchu canlyniadau rhagfarnllyd oherwydd y data y cawsan nhw eu hyfforddi arnyn nhw. Gall rhagfarn arwain at ganlyniadau annheg neu wahaniaethol, ac mae'n bwysig ei lliniaru mewn rhaglenni AI.  
 
Rhithweledigaeth 
Ffenomen lle mae modelau AI yn cynhyrchu cynnwys nad yw'n seiliedig ar y data sy'n cael ei fwydo neu wybodaeth yn y byd go iawn. Gall rhithwelediadau arwain at ganlyniadau ffug neu gamarweiniol. 
 
Sofraniaeth Data 
Y cysyniad bod data yn ddarostyngedig i gyfreithiau a rheoliadau'r wlad lle mae'n cael ei gasglu neu ei brosesu. Mae'n bwysig ystyried sofraniaeth data wrth ddefnyddio offer AI a gynhelir mewn gwahanol awdurdodaethau.